Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ned yn ennill gwobr genedlaethol am ei sgiliau ariannol

Mae'r myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi ennill Gwobr Gwella Rhifedd Ariannol gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru (The Worshipful Livery Company of Wales)

Enillodd Ned Pugh, sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, y wobr genedlaethol am ddatblygu ei sgiliau ariannol.

Mae Ned, o Lwyngwril, wedi derbyn Gwobr Gwella Rhifedd Ariannol gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru (WLCOW).

Mae’r bachgen 21 oed ar ail flwyddyn cwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch ar gampysau Pwllheli a Dolgellau.

Enillodd y wobr ar ôl gwella ei sgiliau rhifedd a mathemateg yn sylweddol yn y coleg. Defnyddiodd ei allu i drin rhifau i gefnogi ei fenter glanhau ceir a rhoi manylion ar geir.

Cafodd Ned ychydig o help gan y ‘Money Saving Expert’ Martin Lewis, wrth iddo ddilyn cwrs MSE am ddim y Money Academy i'w helpu i reoli ei arian personol.

Pan ddechreuodd Ned yng Ngholeg Meirion-Dwyfor roedd ganddo TGAU gradd ‘C’ mewn Mathemateg, ond datblygodd ei sgiliau rhifedd ac mae bellach yn argoeli’n dda y caiff ragoriaeth yn y Dystysgrif Uwch Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol, sy'n cynnwys unedau ar Wyddor Peirianneg a Mathemateg.

Yn ôl Emlyn Evans, y darlithydd peirianneg: “Mae Ned yn esiampl i bawb. Mae ei agwedd at waith a'i ymdrech ym mhob un o'r unedau y mae wedi'u hastudio wedi bod yn rhagorol.

“Dw i’n gwybod nad ydi Ned yn ystyried ei hun yn rhywun sy’n haeddu gwobr, ond mae o wir yn haeddu’r clod. Mae wedi bod yn barod ei wên waeth pa rwystrau oedd rhaid eu goresgyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae wedi ymroi i bob tasg yn llwyddiannus iawn.”

Meddai Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor: “Mae Ned wedi gweithio’n galed iawn i ddatblygu ei sgiliau rhifedd. Fel coleg, rydyn ni’n falch iawn o gyflawniad Ned ac yn dymuno’n dda iddo gyda’i astudiaethau yn y dyfodol.”

Ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU yn Ysgol Tywyn, aeth Ned ymlaen i astudio cwrs Lefel 2 mewn Peirianneg ar gampws CaMDA Coleg Meirion-Dwyfor gan astudio cymwysterau City and Guilds mewn Peirianneg, Llythrennedd Digidol a Chymhwyso Rhifau.

Yna fe ddatblygodd ei sgiliau peirianneg ymarferol trwy astudio cwrs Lefel 2 mewn Ffabrigo a Weldio . Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd hyder Ned a chafodd y cyfle i wella ei sgiliau rhifedd a mathemateg, gan ei alluogi i gofrestru ar gwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch.

Mae'n gobeithio cael prentisiaeth Addysg Uwch y flwyddyn nesaf, ar ôl gwneud cais i astudio’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) Lefel 4 mewn Peirianneg Gyffredinol ar gampws Dolgellau ym mis Medi.

Dywedodd Ned: “Dw i wedi mwynhau fy nhaith hyd yn hyn. Mae'r staff yng Ngholeg

Meirion-Dwyfor wedi bod yn gefnogol iawn. Mae fy sgiliau peirianneg a fy hyder wedi datblygu ar bob cam o’r ffordd.”

Mae Ned yn bwriadu defnyddio'r arian a enillodd i brynu gliniadur newydd i'w gynorthwyo i wireddu ei uchelgeisiau o ran gyrfa.

Meddai: “Fy nghynllun ar hyn o bryd ydi dod o hyd i brentisiaeth leol ym maes peirianneg. Bydd y wobr yn help mawr i brynu gliniadur newydd ar gyfer fy astudiaethau wrth i mi anelu am swydd fel peiriannydd yn y dyfodol.

“Dw i wedi gwneud cais i ddilyn y cwrs HNC yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau'r flwyddyn nesaf, felly byddai cael prentisiaeth a chael fy rhyddhau am un diwrnod yr wythnos yn fy siwtio i'r dim.”

Mae’r broses ymgeisio ar agor rŵan ar gyfer y cwrs HNC mewn Peirianneg Gyffredinol sy’n dechrau ym mis Medi 2024.

Dywedodd Emlyn Evans, arweinydd rhaglen y cwrs HNC Lefel 4 yn Nolgellau: “Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithio gyda gweithwyr o'r diwydiant yn lleol, megis Trafnidiaeth Cymru (Depo Peirianneg Machynlleth), yr Asiantaeth Datgomisiynu Niwclear (NDA) yn Nhrawsfynydd, The Hut Group, Towyn, ac Metcalfe Catering Equipment, Blaenau Ffestiniog, i helpu’r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau fel peirianwyr y dyfodol.

“Ar y cwrs mae’r prentisiaid yn astudio Dylunio Peirianyddol, Gwyddor Peirianneg, Mathemateg ym maes Peirianneg, Prosiect Peirianneg, Rheoli ym maes Peirianneg, Cynhyrchu, Sgiliau Peiriannu mewn Gweithdy a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur i ennill Cymhwyster HNC Lefel 4.”

  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r cyrsiau peirianneg a gynigir gan Goleg Meirion-Dwyfor, cysylltwch ag Emlyn Evans, evans12e@gllm.ac.uk I ddysgu rhagor am y cyrsiau Peirianneg sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, neu i wneud cais, cliciwch yma.