Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl, Pwllheli - Hafan (Peirianneg), Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Peirianneg Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs yn un ymarferol sy'n gysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a seiliwyd ar sefyllfaoedd gwaith realistig. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol ac addysgol.

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sy'n gysylltiedig ag arferion peirianyddol. Os ydych yn awyddus i fod yn Beiriannydd ac yn meddu ar y gofynion mynediad perthnasol, yna mae'r cwrs yn addas i chi.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd A*- C gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
  • Wedi cwblhau'r cwrs Peirianneg Lefel 2

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy
  • Sesiynau yn y dosbarth
  • Gwaith â phwyslais ar y myfyriwr
  • Arddangosiadau
  • Trafodaethau
  • Tiwtorialau
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Bydd yn rhaid i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ail-sefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
  • ‘Mathemateg Lefel AS’ ar gael yn (Llangefni yn unig)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformiad ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol
  • Arholiad ar-lein

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran beth i'w wneud nesaf gan gynnwys:

  • Cwblhau blwyddyn atodol er mwyn ennill Diploma Estynedig (yn cyfateb i 3 gradd Safon Uwch)
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg
  • Prentisiaethau
  • Prentisiaethau Uwch
  • Prentisiaethau Gradd
  • Mynd i'r Brifysgol

Gallwch ymgeisio ar gyfer y cyrsiau Lefel 3 canlynol yn Llangefni:

  • Peirianneg Awyrennaeth ac Awyrennau Lefel 3
  • Peirianneg Electronig/Drydanol Lefel 3
  • Peirianneg Fecanyddol/Gweithgynhyrchu Lefel 3
  • Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith