Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Ffabrigo a Weldio Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n awyddus i ennill profiad ymarferol ym maes ffabrigo a weldio?

Ar y cwrs hwn, cewch eich cyflwyno i sgiliau sylfaenol ffabrigo a weldio. Bydd hefyd yn eich galluogi i ennill nifer o gymwysterau ac mae'n addas ar gyfer unrhyw un sydd â gwir ddiddordeb mewn weldio a ffabrigo.

Mae'r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o dasgau weldio sylfaenol megis creu uniadau wedi'u bresyddu a'u weldio. Bydd y wybodaeth ymarferol byddwch yn ei hennill hefyd yn ymwneud â gwaith dur, adeiladu llongau, cynnal a chadw ceir, plymio, cerfio, gwaith cynnal a chadw cyffredinol a nifer o feysydd eraill.

Gofynion mynediad

gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r isod:

  • 3 TGAU gradd A*-D ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg.
  • Wedi cwblhau cwrs Diploma Lefel 1 yn llwyddiannus
  • Wedi cwblhau'r Cwrs Sylfaen Lefel 1 neu 2 yn llwyddiannus
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth greiddiol
  • Aseiniadau

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud gwaith ffabrigo/weldio.

Gallech chi hefyd fynd ymlaen i:

  • Ffabrigo a Weldio Lefel 3
  • Prentisiaeth mewn Weldio Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Llangefni

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur