Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser, blwyddyn coleg estynedig

Gwnewch gais
×

Peirianneg Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i gwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sy'n gyffredin i bob llwybr peirianneg ac i baratoi ar gyfer Peirianneg Lefel 3. Byddwch yn ennill sgiliau ym mhob agwedd ar y sector peirianneg.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r isod:

  • 4 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg neu Rifedd.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy
  • Sesiynau yn y dosbarth
  • Gwaith â phwyslais ar y myfyriwr
  • Arddangosiadau
  • Trafodaethau
  • Tiwtorialau
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Bydd yn rhaid i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformiad ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol
  • Arholiadau ar-lein

Dilyniant

Mae cwblhau’r cwrs hwn yn rhoi nifer o opsiynau ar gyfer dilyniant, gan gynnwys cwrs Peirianneg Lefel 3 llawn amser er mwyn datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a rhagolygon ymhellach.

Fel arall, gallech wneud cais am brentisiaeth a mynychu coleg ar sail rhyddhau am ddiwrnod.

Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant sy'n datblygu gwybodaeth a sgiliau peirianneg.

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i'r cyrsiau Lefel 3 canlynol.

  • Peirianneg Lefel 3
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg

Gallwch ymgeisio ar gyfer y cyrsiau Lefel 3 canlynol yn Llangefni:

  • Peirianneg Awyrennaeth ac Awyrennau Lefel 3
  • Peirianneg Electronig/Drydanol Lefel 3
  • Peirianneg Fecanyddol/Gweithgynhyrchu Lefel 3
  • Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith