Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Penodi Ellie yn weithiwr ieuenctid dan hyfforddiant

Mae’r cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo yn gweithio gyda’r elusen Dyfodol Disglair diolch i gyllid gan Sefydliad Neumark

Mae Ellie Wilkinson, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, wedi cael ei phenodi fel gweithiwr ieuenctid dan hyfforddiant gydag elusen Dyfodol Disglair yn y Rhyl.

Yn ddiweddar, astudiodd Ellie gwrs Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwsig Swyddogol ⁠ar gampws y Rhyl.

Cafodd gynnig y swydd gyda Dyfodol Disglair yn dilyn proses recriwtio a oedd yn cynnwys nid yn unig staff yr elusen, ond hefyd y bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.

Mae Ellie bellach yn gweithio ochr yn ochr â gweithiwr ieuenctid profiadol yr elusen, gan dynnu ar ei phrofiadau o weithio gyda phobl ifanc trwy weithgareddau gyda Heddlu Gogledd Cymru a thrwy ei hymwneud â phêl-droed lleol.

Meddai: “Dw i’n falch iawn o gael cynnig y cyfle hwn, a dw i’n mwynhau’r swydd yn fawr hyd yn hyn.

“Wrth dyfu i fyny yn y Rhyl, fe brofais heriau ac anawsterau fy hun, a’i chael yn anodd heb gefnogaeth. Mae’n wych gallu cefnogi pobl ifanc eraill i’w helpu i greu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain. Dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a phrofiad gan obeithio y gallaf wneud gwahaniaeth.”

Mae Dyfodol Disglair yn gweithio i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi yn y Rhyl, gan ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau i blant, pobl ifanc, rhieni, yr henoed, a phobl ag anableddau.

Daeth y cyfle i Ellie ymuno â Dyfodol Disglair ar ôl i’r elusen wneud cais am arian gan Sefydliad Neumark.

Mae'r Sefydliad yn gweithio gyda mudiadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc ar draws Gogledd Cymru. Gwnaeth y gwaith sy'n cael ei wneud gan Dyfodol Disglair gymaint o argraff arnynt, fe wnaethant gynnig eu cefnogaeth i helpu i ariannu rôl yr hyfforddai.

Dywedodd Shane Owen, Prif Swyddog Gweithredol Dyfodol Disglair: “Mae cefnogaeth Sefydliad Neumark wedi ein galluogi i gyflogi Ellie fel gweithiwr ieuenctid dan hyfforddiant.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni, gan fod Ellie yn berson ifanc sydd wedi’i magu yn y Rhyl, ac sydd â dealltwriaeth dda o’r gymuned.

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn ein helpu i lunio ein gweithgareddau a’n gwasanaethau, gan ddod ag egni a safbwyntiau newydd i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn gyffrous iawn gallu dangos i bobl ifanc lleol bod cyfleoedd iddyn nhw ddysgu a symud ymlaen i gyflogaeth yn gallu codi.”

Meddai Rebecca Neumark, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Neumark “Does dim byd yn haearnaidd yn y ffordd rydyn ni’n gweithio yn Sefydliad Neumark. Pan welwn ni gyfle a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a phobl ifanc, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi, gan fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau weithiau.”

Ychwanegodd: “Mae hi'n bleser cwrdd ag Ellie. Dw i'n gwybod ei bod yn awyddus iawn i wneud y gorau o’r cyfle hwn, a bydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r bobl ifanc y mae’n eu cefnogi.

“Mae gwaith Dyfodol Disglair yn wirioneddol galonogol, ac mae’n fraint gallu cefnogi eu datblygiad.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn yr heddlu neu wasanaethau cyhoeddus eraill? Mae'r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwsig Swyddogol wedi ei gynllunio i'ch paratoi ar gyfer gweithio yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Carchardai, sefydliadau cymunedol a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai.