Colegau yn Cyhoeddi Digwyddiadau Agored ar gyfer mis Mawrth
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n falch o gyhoeddi y bydd yn cynnal ei gyfres nesaf o Ddigwyddiadau Agored ar y campysau yn ystod mis Mawrth 2022.
Mae Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i weld ein campysau a'n cyfleusterau tan gamp, i gyfarfod a'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am y dewis eang o gyrsiau rydym yn eu cynnig.
Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor sydd â'r dewis ehangaf o raglenni dysgu llawn a rhan-amser, prentisiaethau a graddau yng Ngogledd Cymru. Yn wir, mae ganddynt 1000oedd o ddewisiadau i ddiwallu eich anghenion ac i'ch helpu i gyrraedd eich potensial.
Caiff llawer o'n cyrsiau eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr er mwyn rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae cwmnïau’n gofyn amdanynt yn y gweithle modern.
Rydym yn cynnig dros 30 o gyrsiau Lefel AS/A a gyflwynir gan diwtoriaid profiadol a chymwys dros ben. Gan fod dewis mor eang ar gael, rydych yn siŵr o ddod o hyd i bynciau sy'n addas i chi. Yn 2021, roedd cyfradd llwyddo ein dysgwyr Lefel A yn 99% ac aeth llawer ohonynt ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt! Ar ben hynny, llwyddodd 50% o'r dysgwyr Lefel A i gael graddau A* ac A!
Yn y rhan fwyaf o Ddigwyddiadau Agored bydd ymwelwyr yn gallu cael gwybodaeth am gyrsiau gradd a chyrsiau lefel uwch hefyd. Mae Grŵp Llandrillo Menai ymhlith y sefydliadau sy'n cynnig y dewis mwyaf o gyrsiau gradd a chyrsiau lefel prifysgol yng Nghymru.
Felly, os ydych wedi gwneud y dewis anghywir ar ôl gorffen eich arholiadau TGAU, angen gwella eich cymwysterau i gael swydd well neu i fynd i'r brifysgol, yn ddi-waith, neu ddim ond yn chwilio am ddechrau newydd, bydd staff y coleg ar gael i ateb eich cwestiynau.
Mae'r digwyddiadau agored rydym yn eu cynnal wedi'u rhestru isod:
Coleg Llandrillo:
- Campws Llandrillo-yn-Rhos – gan gynnwys cyrsiau Gradd: Dydd Llun 14 Mawrth, 5.30pm – 7.00pm
- Campws Y Rhyl – gan gynnwys cyrsiau Gradd: Dydd Mawrth 15 Mawrth, 5.30pm – 7.00pm
- Abergele: Dydd Mawrth 15 Mawrth, 5.30pm – 7.00pm
Coleg Menai:
- Campws Llangefni – gan gynnwys cyrsiau Gradd: Dydd Mercher 16 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
- Bangor – gan gynnwys cyrsiau Gradd: Dydd Iau 17 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
- Campws Parc Menai – gan gynnwys cyrsiau Gradd: Dydd Mawrth 15 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
Coleg Meirion-Dwyfor:
- Campws Dolgellau – gan gynnwys cyrsiau Gradd: Dydd Mercher 16 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
- Campws Pwllheli: Dydd Mercher 23 Mawrth, 4.30pm – 6.30pm
Coleg Glynllifon:
- Dydd Sadwrn 26 Mawrth, 10am – 2pm
Ymunwch â'r degau ar filoedd o fyfyrwyr sydd wedi gwireddu eu gobeithion personol ac academaidd yng ngholegau Ngrŵp Llandrillo Menai!
Felly, i archebu eich lle yn un o'r Digwyddiadau Agored ewch i https://www.gllm.ac.uk/events/
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!