Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Edrych ymlaen at Gystadleuaeth Rygbi Ryng-golegol gyntaf Coleg Meirion-Dwyfor.

Dydd Mercher, Chwefror 16, ar gaeau Clwb Rygbi Porthmadog, bydd cystadleuaeth rygbi ryng-golegol gyntaf Coleg Meirion-Dwyfor yn cael ei chynnal.

Bydd y gic gyntaf am 1 o’r gloch, pryd bydd safleoedd CMD yn herio ei gilydd. Bydd safleoedd Dolgellau a Phwllheli’n cymryd rhan, yn ogystal â Glynllifon, sef ein safle diwydiannau’r tir, ar gyrion Caernarfon.

Bydd pob un o’r colegau yn chware yn erbyn ei gilydd, mewn gem hanner awr.

Dywedodd Eon Williams, Swyddog Rygbi Coleg Meirion-Dwyfor.

“Mae’r dyfnder o dalent sydd gennym ar y cae rygbi yng Ngholeg Meirion-Dwyfor a Glynllifon yn syfrdanol. Yn aml iawn, ac yn arbennig ers dyddiau cofid, mae’r cyfleoedd i gampysau gwahanol ein coleg i ddod at ei gilydd wedi bod yn brin iawn. Mae cynnal digwyddiad fel hwn felly yn gyfle gwych i ni ddod at ein gilydd, mewn gemau cystadleuol, ond cyfeillgar.”

Ychwanegodd

“Mae croeso i unrhyw un ddod draw i gefnogi eu coleg ar y dydd. Dwi’n sicr y bydd pob un o’r gemau yn rhai cystadleuol iawn, felly mae’n siŵr o fod yn ddiwrnod da o rygbi. Mae ein coleg yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol, fel un o’r llefydd gorau i ddod i astudio, oherwydd ein record academaidd wych, ar ben hynny, mae’r cyfleodd tu allan i’r ystafell ddosbarth hefyd gyda’r gorau drwy’r holl wlad. Mae ein perthynas agos iawn gyda Rygbi Gogledd Cymru yn dyst i hynny, gyda llawer o’n myfyrwyr dros y blynyddoedd yn mynd ymlaen i gynrychioli Grŵp Llandrillo Menai yn erbyn rhai o golegau a chlybiau rygbi mwyaf y wlad.”

Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai.

“Mae’r gwaith sydd yn cael ei gyflawni gan Eon, fel ein Swyddog Rygbi, wirioneddol yn gwreiddio ein coleg yn ein cymunedau lleol, boed hynny gyda’n myfyrwyr neu o ran ei waith gyda chlybiau rygbi ac ysgolion lleol. I mi fel Pennaeth, ac fel hogyn o Ddyffryn Nantlle, y broblem fydd pa ochr i’w chefnogi!

Cofiwch ddod i Glwb Rygbi Porthmadog dydd Mercher, Chwefror 16 i gefnogi.