Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Telehandler trydan y cyntaf o'i fath yn cyrraedd Glynllifon

Fel rhan o Strategaeth Hydrogen Grŵp Llandrillo Menai, mae Coleg Glynllifon wedi cael menthyg Telehandler trydan Merlo gan gwmni GNH Agri, dyma’r Telehandler cyntaf o’i fath ym Mhrydain, a’r Coleg ydi’r sefydliad addysg cyntaf i cael defnydd ohono.

Mae strategaeth Hydrogen Grŵp Llandrillo Menai yn cynnwys -

  • Cyflwyno hyfforddiant ar sut i fewnosod offer systemau hydrogen mewn cartrefi a busnesau mewn partneriaeth gyda Worcester Bosch a hynny o ganolfan Hyfforddi Carbon Sero newydd yn CIST yn Llangefni.
  • Datblygu arbenigedd mewn defnyddio hydrogen ar gyfer cerbydau trwm a cherbydau personol.
  • Defnyddio hydrogen i ddadgarboneiddio ei fferm yng Ngholeg Glynllifon.
  • Archwilio'r posibilrwydd o wresogi'n gyfan-gwbl trwy ddefnyddio hydrogen yn rhai o brif adeiladau'r Grŵp.
  • Rhaglennu sgiliau'r dyfodol ar gyfer storio, rheoli a chludo hydrogen.

Bydd Generation 0’ eWorker telehandler cwmni Merlo a’r gael i’w ddefnyddio yn y coleg am rhai wythnosau, er mwyn i staff ac i fyfyrwyr y coleg, ddod i ddysgu am ddefnydd offer o’r fath.

Mae'r eWorkerr yn ganlyniad blynyddoedd o ymchwil i ddarganfod ddatrysiad amgen i gerbydau sydd â pheiriannau tanio yn y diwydiant.

Mae Merlo yn honni eu bod wedi creu cerbydau sydd nid yn unig yn lleihau sŵn ac allyriadau, ond sydd hefyd yn cynnig lefel uchel o berfformiad.

Eglurodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae gan y sector addysg bellach rôl allweddol i'w chwarae mewn cwrdd â thargedau net sero'r Llywodraeth yma yng Nghymru.

"Mae'n glir y bydd, fel rhan o'r agenda i ddadgarboneiddio, galw cynyddol am hydrogen carbon isel dros y blynyddoedd nesaf.

"Rydyn ni'n awyddus i fabwysiadu technoleg hydrogen yn gynnar a pharhau i arloesi wrth i ni barhau i fynd i'r afael â newid hinsawdd.”

Dywedodd Esmor Wyn Hughes o Goleg Glynllifon.

“Mae cael treialu’r telehandler newydd trydan yma gan gwmnïau GNH Agri a Merlo wirioneddol yn gam sylweddol ymlaen i ni fel coleg, yn ein hymgais i geisio symud yr agenda amgylcheddol yn ei flaen. Mae’r peiriant yn un hawdd iawn i’w ddefnyddio, ac yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ddechrau dysgu, rŵan hyn, am y math o beiriannau fydd yn sicr o ddod yn fwy amlwg yn y maes amaethyddol yn ystod y blynyddoedd nesaf.”