Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgu a diffodd tân yn rhedeg yn y teulu i dair cenhedlaeth o Robert Gunton

Mae'r darlithydd Rob, ei dad Bob, a'i fab Robert John i gyd wedi dilyn eu llwybrau dysgu eu hunain yng Ngholeg Meirion-Dwyfor

Mae taid, tad a mab, sy'n rhannu'r un enw hanesyddol, wedi uwchsgilio ar gyfer y dyfodol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

Robert David Gunton, sy'n dysgu plymio ar gampws CaMDA Dolgellau, yw'r degfed mewn llinach hir o Robert Guntons sy'n dyddio'n ôl dros ddwy ganrif.

Yr haf hwn, enillodd Rob ei Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (TBA), gan ddod y cyntaf yn ei deulu i raddio o gwrs lefel prifysgol.

Roedd gan ei fab hynaf, yr 11eg Robert Gunton - sy'n cael ei adnabod fel Robert John i osgoi dryswch - reswm i ddathlu hefyd - enillodd wobr Cyflawnwr y Flwyddyn adran beirianneg y coleg.

Mae tad Rob, Bob, hefyd wedi bod yn mwynhau dysgu, gyda'r nawfed Robert Gunton yn ehangu ei sgiliau drwy gwblhau cwrs plymio DIY ar gampws adeiladu a pheirianneg CaMDA.

Ac nid dim ond enw ac awydd i ddysgu sy'n gyffredin gan y tri Robert Gunton, gyda Rob wedi dilyn Bob i'r gwasanaeth tân, ac mae Robert John ar fin gwneud yr un peth.

Meddai Rob: “Mae fy nhad (Bob) yn ddiffoddwr tân llawn amser wedi ymddeol. Rydw i hefyd yn ddiffoddwr tân rhan-amser, felly pan oeddwn i'n gwneud fy TBA, byddwn i'n gweithio yn CaMDA o 8.30am tan amser cinio, yna'n mynd i'r coleg ar gyfer fy TBA, yna'n cyrraedd adref a chael cawod gyflym ac eillio cyn mynd i weithio fel diffoddwr tân.

“Mae Robert John hefyd wedi gwneud cais i ymuno ac mae newydd gael ei archwiliad meddygol, felly bydd yn cyfuno hynny â mynd i'r coleg. Felly pan nad ydy o yn y coleg bydd ar alwad.”

Ar ôl cyflawni ei TBA, mae Robert bellach yn gweithio fel darlithydd rhan-amser ar gampws CaMDA, ac mae'n cyfuno hyn â'i rôl flaenorol fel goruchwyliwr sgiliau ymarferol.

“Mi ddechreuais i yma’n 2001 fel technegydd a goruchwyliwr sgiliau ymarferol,” meddai Rob. “Mi wnes i gamu i mewn i helpu pan roedden nhw’n brin o staff, a ro'n i’n mwynhau'r ochr addysgu. Yn ara' bach ro'n i'n cymryd mwy o gyfrifoldeb ac mi ro'n i'n mwynhau, felly pan gefais i'r cyfle i wneud fy TBA, mi neidiais ar y cyfle.”

Ar y dechrau roedd yr her o ddychwelyd i addysg yn ei lethu, ond yn fuan gwnaeth ei diwtoriaid iddo deimlo'n gyfforddus ac mae'r cwrs wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ei fywyd gwaith.

“Yr unig beth oedd yn fy nychryn oedd y syniad o fynd yn ôl i wneud cwrs Addysg Uwch, oherwydd y tro diwethaf i mi fod yn y coleg oedd 28 mlynedd yn ôl,” meddai Rob.

“Ro'n i'n teimlo bod yn rhaid i mi weithio'n galed iawn dim ond i fod yno o'i gymharu â rhai o'r lleill ar y cwrs oedd wedi bod yn y brifysgol. Ond roedd y tiwtoriaid yn wych, ac mi ddywedon nhw wrtha i fy mod i wedi gwneud mwy na digon i fod yno, ac nad o'n i yno i dicio bocs yn unig. Mi wnes i fwynhau'r cwrs, mi wnes i ffrindiau da, ac mi orffennais i'r llynedd gyda theilyngdod.

“Roedd dau o fy nghydweithwyr yn CaMDA ar y cwrs hefyd, ac eleni mae dau arall yn mynd amdani. Rydyn ni wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn werth ei wneud.”

Roedd y seremoni raddio yn Venue Cymru yn foment emosiynol i Rob, a ddywedodd: “Does neb o fy nheulu i wedi bod yn y brifysgol felly do'n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn y seremoni raddio. Pan ddarllenon nhw fy enw i allan, roedd yn rhaid i mi lyncu lwmp yn fy ngwddf am eiliad.

“Mae’r cwrs wedi gwneud gwahaniaeth yn fy mywyd gwaith, i’r ffordd rwy’n addysgu. Y pethau rydych chi'n eu dysgu drwy'r cwrs, sut allwch chi wella eich dulliau addysgu, yr adborth maen nhw'n ei roi i chi i ddatblygu - mae popeth yn dod at ei gilydd er mwyn i chi ei ddefnyddio yn y dyfodol.”

Lai na mis cyn y seremoni raddio, roedd y teulu Gunton ar gampws Dolgellau ar gyfer Seremoni Gwobrau Cyflawnwyr blynyddol Coleg Meirion-Dwyfor, lle'r oedd Robert John, 18 oed, yn cael ei gydnabod am yr ymroddiad a ddangosodd i'w gwrs Ffabrigo a Weldio Lefel 2.

“Enillodd y wobr am ei ymdrech gyffredinol,” ychwanegodd ei dad, Rob. “Fo oedd y dysgwr a oedd wedi gwella fwyaf yn ystod y flwyddyn - cafodd rywfaint o adborth ar sut roedd angen iddo wella mewn rhai meysydd, ac mi fwriodd ati. Mae bellach yn astudio cwrs Lefel 3 mewn Ffabrigo a Weldio, ac yn gobeithio symud ymlaen i Lefel 3 Peirianneg.”

Roedd Rob yn un o'r athrawon ar gwrs plymio hynod boblogaidd a gynigiwyd trwy 'Lluosi' llynedd - gyda'i dad Bob ymhlith y dysgwyr.

“Roedd gennym ni gymaint o fyfyrwyr roedd yn rhaid i ni gael dau grŵp, a oedd yn golygu y gallwn i wneud yn siŵr nad oeddwn i’n dysgu fy nhad!” meddai.

“Roedd yn gwrs gwerth chweil, ac mi wnes i fwynhau ei addysgu. Mae 'na lawer o bobl wedi dweud wrtha i eu bod nhw wedi newid eu rheiddiaduron a phethau fel 'na eu hunain ers gwneud y cwrs.

“Mae fy nhad yn hoffi dysgu sgiliau newydd a gwella'i hun, ac roedd llawer o’r wybodaeth yn newydd iddo. Er nad oes angen iddo newid ei reiddiaduron ei hun oherwydd mae ganddo fo fi i wneud hynny drosto fo!”

Ydych chi eisiau rhyddhau eich potensial i addysgu? Mae lleoedd ar gael o hyd ar gyrsiau TAR a TBA Grŵp Llandrillo Menai - dilynwch y dolenni i wneud cais neu i ddysgu rhagor

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date