Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 flynedd (1 diwrnod NEU hanner diwrnod a noson yr wythnos)
Tystysgrif Broffesiynol mewn AddysgGraddau (Addysg Uwch)
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? Neu a ydych chi eisoes yn addysgu, ond yn awyddus i gael cymhwyster cydnabyddedig?
Yn ychwanegol, mae tystiolaeth o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos bod cwblhau'r cwrs yma'n gwella potensial gyrfaol a chyflogaeth aelodau'r cwrs.
Pa un a ydych yn athro neu'n athrawes newydd neu brofiadol, bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa ym maes addysg ôl-orfodol. Cewch y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwyster a fydd yn eich galluogi i ddechrau neu i barhau i addysgu ym maes addysg bellach, ym maes dysgu oedolion neu ddysgu yn y gymuned, mewn carchardai neu ym maes dysgu seiliedig ar waith.
Mae'r cwrs yn addas ar gyfer rhai sydd ag uchelgais i fod, neu sydd eisoes yn ddarlithwyr coleg, darparwyr addysg oedolion neu addysg gymunedol, hyfforddwyr yn y gwasanaeth milwrol neu'r gwasanaeth cyhoeddus, swyddogion hyfforddi ac eraill sy'n ymwneud ag addysgu neu hyfforddi.
Ni fwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai sy'n dymuno addysgu mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Gofynion mynediad
- O leiaf cymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r pwnc arbenigol yr ydych yn dymuno ei ddysgu
- Dylai tiwtoriaid galwedigaethol fod â phrofiad sylweddol (o leiaf bum mlynedd yn y diwydiant)
- Gwiriad manwl gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Tystiolaeth o sgiliau llythrennedd a Rhifedd Lefel 2 neu uwch
- TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu uwch.
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi'u haddysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
- TGAU Mathemateg yn ddymunol
Rhaid i chi fod ag o leiaf 100 o oriau ymarfer addysgu dros gyfnod y cwrs, a rhaid i chi gwblhau 40 awr o arsylwi ymarferwyr profiadol.
Pan fyddwch yn trefnu'ch ymarfer dysgu eich hun, rhaid i'r dysgu ddigwydd mewn amgylchedd a gymeradwyir (e.e. Addysg Bellach, addysg oedolion, y sector gwirfoddol neu ddarparwr hyfforddiant sy'n derbyn cyllid cyhoeddus) a gofynnir am eirda gan eich cyflogwr.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Yn ogystal ag agweddau ar y cwrs a addysgir yn uniongyrchol, bydd disgwyl i chi wneud cryn dipyn o astudio personol, rhywfaint gyda chymorth system reoli dysgu ar-lein. Cynlluniwyd strategaeth ddysgu ac addysgu'r cwrs i fodloni'r canlyniadau dysgu.
Yn gyffredinol, mae'r cwrs yn gyfuniad o:
- ddarlithoedd
- gweithdai
- trafodaethau a thasgau rhyngweithiol eraill
- gweithgareddau ar y cyd
- darllen/astudio pynciau penodol dan gyfarwyddyd
- astudio'n annibynnol yn ôl angen personol
- rhoi damcaniaethau ar waith mewn gweithgareddau micro-addysgu,
- profiad addysgu dilys mewn lleoliad gwaith.
Disgwylir i fyfyrwyr sy'n dilyn y dyfarniad rhan-amser hwn fod ar gael un diwrnod yr wythnos i fynychu'r elfennau o'r rhaglen a addysgir. Yn ogystal, disgwylir iddynt gasglu tystiolaeth o ymarfer dysgu ar gyfradd o 50 awr y flwyddyn o leiaf.
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Lesley Surguy-Price (Rhaglen Arweinydd - Coleg Llandrillo): surguy1l@gllm.ac.uk
Christian Davies (Rhaglen Arweinydd - Coleg Menai): davies10c@gllm.ac.uk
Simon Evans (Rhaglen Arweinydd - Coleg Meirion-Dwyfor): simon.evans@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Yn ystod y cwrs, byddwch:
- yn ymgymryd â sesiynau micro-addysgu a chewch eich arsylwi'n addysgu grwpiau o fyfyrwyr
- yn darparu cynlluniau gwersi a chynlluniau dysgu ynghyd â seiliau rhesymegol dros y strategaethau addysgu a ddefnyddir
- yn cwblhau ffeil ymarfer dysgu sy'n cwmpasu o leiaf 100 awr o ymarfer dysgu
- yn darparu adroddiadau ysgrifenedig ar amrywiaeth o waith, gan gynnwys astudiaethau achos yn ymwneud â strategaethau dysgu ac addysgu, cyflwyniadau, cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, a chreu dogfennau cwricwlaidd
- yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd personol
- yn cwblhau dyddlyfrau adfyfyriol, a chreu cynlluniau datblygu personol
Dilyniant
Mae'r cymhwyster hwn yn eich galluogi i addysgu yn y sector ôl-orfodol.
Ymhlith y llwybrau datblygu, mae rhaglenni Gradd mewn Addysg neu ym maes proffesiynol yr ymgeisydd.
Gwybodaeth campws Bangor
Disgrifiad cwrs
Mae ein cwrs Tystysgrif Addysg rhan-amser yn eich gwneud yn gymwys i weithio yn y sector ôl-orfodol (e.e. addysg bellach, addysg oedolion ac addysg gymunedol, mewn carchardai neu yn y gweithle). Yn ddiweddar, adolygwyd y cyrsiau i gwrdd â Safonau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig mewn perthynas â Dysgu Gydol Oes. Bydd y cymhwyster yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddysgu dysgwyr hŷn na 14 oed (rhai 16 oed gan amlaf) ac a seiliwyd ar ddealltwriaeth gadarn o'r damcaniaethau dysgu a ddefnyddir yn eich pwnc arbenigol.
Gwybodaeth uned
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio gyda grŵp o athrawon sy'n datblygu eu crefft. Byddwch yn dod i ddeall mwy am ddulliau addysgu a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gwestiynau allweddol, damcaniaethau a chysyniadau, yn ogystal â datblygu'ch sgiliau eich hun. Byddwch yn ehangu'ch repertoire o ddulliau a strategaethau addysgu a dysgu ac yn datblygu dealltwriaeth o amrywiol anghenion dysgwyr. Byddwch yn ystyried sut y gellir defnyddio'r damcaniaethau ynghylch dysgu ac asesu wrth ddysgu'ch pwnc. Cewch eich annog i ddadansoddi a beirniadu polisïau ac arferion sy'n ymwneud â dysgu'ch pwnc, ac i ddatblygu eich dull ystyriol eich hun o ddysgu'ch pwnc.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn edrych ar faterion ehangach ym maes addysg ôl-orfodol, gan ddysgu ac addysgu o'ch safbwynt chi fel arbenigwr pwnc, a byddwch yn gweithio ar brosiectau gyda chyd-fyfyrwyr yn eich maes pwnc eich hun ac mewn meysydd pwnc eraill.
Gwybodaeth campws Dolgellau

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Disgrifiad cwrs
Mae ein cwrs Tystysgrif Broffessiynol mewn Addysg rhan-amser yn eich gwneud yn gymwys i weithio yn y sector ôl-orfodol (e.e. addysg bellach, addysg oedolion ac addysg gymunedol, mewn carchardai neu yn y gweithle). Bydd y cymhwyster yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddysgu dysgwyr hŷn na 14 oed (rhai 16 oed gan amlaf) ac a seiliwyd ar ddealltwriaeth gadarn o'r damcaniaethau dysgu a ddefnyddir yn eich pwnc arbenigol.
Gwybodaeth uned
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio gyda grŵp o athrawon sy'n datblygu eu crefft. Byddwch yn dod i ddeall mwy am ddulliau addysgu a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gwestiynau allweddol, damcaniaethau a chysyniadau, yn ogystal â datblygu'ch sgiliau eich hun. Byddwch yn ehangu'ch repertoire o ddulliau a strategaethau addysgu a dysgu ac yn datblygu dealltwriaeth o amrywiol anghenion dysgwyr. Byddwch yn ystyried sut y gellir defnyddio'r damcaniaethau ynghylch dysgu ac asesu wrth ddysgu'ch pwnc. Cewch eich annog i ddadansoddi a beirniadu polisïau ac arferion sy'n ymwneud â dysgu'ch pwnc, ac i ddatblygu eich dull ystyriol eich hun o ddysgu'ch pwnc.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn edrych ar faterion ehangach ym maes addysg ôl-orfodol, gan ddysgu ac addysgu o'ch safbwynt chi fel arbenigwr pwnc, a byddwch yn gweithio ar brosiectau gyda chyd-fyfyrwyr yn eich maes pwnc eich hun ac mewn meysydd pwnc eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Hyfforddiant Athrawon
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau