Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cannoedd o blant yn mwynhau twrnamaint pêl-droed yr Urdd yng Ngholeg Llandrillo

Daeth myfyrwyr o adrannau chwaraeon y coleg ynghyd i helpu trefnu a dyfarnu'r twrnamaint blynyddol i ysgolion cynradd, gydag Ysgol Glanwydden yn fuddugol ar y diwrnod

Daeth dros 350 o blant ysgolion cynradd i gampws Coleg Llandrillo i gymryd rhan yn y twrnamaint pêl-droed i ysgolion cynradd dalgylch Urdd Conwy.

Daeth Ysgol Glanwydden i'r brig, yn curo Ysgol Maes Owen 2 - 0 yn y rownd derfynol, ac enwyd Elliott Jones yn chwaraewr y twrnamaint.

Bydd y ddau dîm yn mynd i Rownd Derfynol Genedlaethol yr Urdd yn Aberystwyth ar 20 Mehefin.

Meddai Caitlin Blackwell, athrawes Blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Glanwydden: "Rydyn ni wrth ein boddau’n cymryd rhan yn y twrnamaint hwn bob blwyddyn, dyma'r tro cyntaf mewn 10 lynedd i ni ennill, ac mae hynny'n gyffrous iawn i'r plant.

Mae'n braf iawn bod cyfle i blant gael cyfleoedd fel hyn yn lleol i weithio fel tîm, i chwarae pêl-droed ac i gefnogi ac annog ei gilydd.

Dw i'n gallu gweld o'u hwynebau eu bod wedi cael diwrnod wrth eu boddau, Aberystwyth amdani nesaf. Mae’n gyfle iddyn nhw deithio i ardal wahanol a chystadlu ar lefel genedlaethol yn erbyn timau o bob cwr o'r wlad. Mi fydd datblygiad y plant yn elw'n fawr o hynny."

Trefnir y twrnamaint gan Urdd Gobaith Cymru ac mae ar gyfer timau o blant blynyddoedd 6 a 6 ysgolion cynradd. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn ar gae 3G Coleg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

Roedd 35 o dimau o ysgolion o bob cwr o sir Conwy'n cystadlu yn y twrnamaint eleni. Trefnwyd y timau i bum grŵp a'r timau ar y brig symud ymlaen i'r chwarteri, y rownd gynderfynol a'r rownd derfynol.

Fel bob blwyddyn roedd myfyrwyr o Goleg Llandrillo'n dyfarnu'r gemau, yn cadw trefn ac yn helpu i sicrhau bod y twrnamaint yn mynd rhagddi'n hwylus.

Roedd y twrnamaint hefyd yn gyfle i blant, staff a myfyrwyr y coleg ymarfer defnyddio’r Gymraeg, beth bynnag oedd lefel eu rhuglder.

Bydd yr Urdd hefyd yn trefnu twrnamaint i ferched blynyddoedd 5 a 6 yn y coleg ar 23 Hydref. Mae myfyrwyr blwyddyn gyntaf y cwrs Lefel 3 Gwyddor Chwaraeon ar hyn o bryd yn cynllunio i drefnu’r digwyddiad fel rhan o’u Gwobrau Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol a Bagloriaeth Cymru.

Ychwanegodd Amy: "Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau yng Ngholeg Llandrillo yn y dyfodol, yn enwedig twrnamaint pêl-droed i ferched ysgolion cynradd Conwy fis nesaf."

Dywedodd Marc Thomas, Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon gyda'r Urdd: “Roedd yn wych croesawu 35 o dimau a mwy na 350 o blant i’r coleg ar gyfer cystadleuaeth Pêl-droed Agored yr Urdd.

Roedd clywed cymaint o blant yn mwynhau ac yn defnyddio’r Gymraeg drwy’r dydd yn deimlad gwych. Dw i'n edrych ymlaen yn barod at y twrnamaint i ferched blynyddoedd 5 a 6 yn y coleg ar 23 Hydref.

Diolch yn fawr iawn i'r holl blant ysgol, y staff, y rhieni, y swyddogion cymorth cyntaf a’r coleg am ddiwrnod gwych llawn hwyl. Pob lwc i Ysgol Glanwydden ac Ysgol Maes Owen lawr yn Aberystwyth, lle byddan nhw'n cystadlu yn erbyn yr enillwyr eraill o bob rhan o Gymru. Ymlaen a ni i'r gystadleuaeth nesaf!”

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser gyda Grŵp Llandrillo Menai. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses ⁠i gael rhagor o wybodaeth

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date