Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gyrfa newydd Rahim ym maes Seibrddiogelwch, diolch i Goleg Llandrillo

Mae'r myfyriwr 21 oed ym mlwyddyn olaf ei brentisiaeth gradd ac yn gweithio mewn rôl werth chweil gyda GIG

Mae Rahim Arif ar y trywydd iawn i ennill gradd mewn Seiberddiogelwch diolch i Goleg Llandrillo - ac mae eisoes wedi dechrau gyrfa werth chweil yn y sector.

Mae'r myfyriwr 21 oed ym mlwyddyn olaf ei brentisiaeth gradd Siebrddiogelwch Gynhwysol ⁠trwy Busnes@LlandrilloMenai, ac yn gweithio gyda thîm seibrddiogelwch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB).

Gwaeth gais i Goleg Llandrillo yn 16 oed, heb unrhyw brofiad blaenorol o TG. Bum mlynedd yn ddiweddarach mae Rahim wedi gweithio drwy bob lefel ac mae'n dilyn cwrs gradd sydd wedi'i ariannu'n llawn, sy'n golygu nad oes ffioedd dysgu i'w talu.

Yn lle hynny mae Rahim yn ennill pres mewn swydd sydd wrth ei fodd, yn gweithio pedwar diwrnod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn astudio un diwrnod yr wythnos. Am ddwy flynedd gyntaf ei gwrs roedd ei ddarlithoedd ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, a blwyddyn olaf ei gwrs yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd Rahim yn ennill gradd BSc (Anrh) o Brifysgol Bangor eleni, rhywbeth nad oedd wedi'i ragweld pan ddaeth i'r coleg am y tro cyntaf.

“Yn wreiddiol roeddwn i eisiau dilyn cwrs Celf a Dylunio Lefel 3, ond roedd rhaid i mi ailsefyll fy TGAU mathemateg felly doeddwn i ddim yn gallu ei ddilyn,” meddai.

“Felly roeddwn i’n edrych drwy wefan y coleg i weld pa gyrsiau eraill a allai fod o ddiddordeb i mi, a dyna pryd y gwelais i’r cwrs ymarferydd TG Lefel 2.

Roedd gen i ddiddordeb mewn dylunio gwefannau ers tro, ac roedd ganddyn nhw uned ddiogelwch a oedd yn ddiddorol, felly mi wnes i gais.

Doeddwn i ddim wedi astudio TG o’r blaen, nac unrhyw beth sy’n gysylltiedig â chyfrifiaduron, ond mi ges i gefnogaeth dda iawn gan y tiwtoriaid, ac mi wnaeth hynny helpu. Mi ges i amser i setlo, i ddeall y pethau sylfaenol ac mi wnes i ddatblygu fy ngwybodaeth o hynny."

Aeth Rahim ymlaen i BTEC Lefel 3 yn ei ail flwyddyn, gan ychwanegu: “Roedd yn ddefnyddiol iawn cael cyfuniad o aseiniadau, arholiadau a chyflwyniadau ac agweddau ymarferol, gydag unedau’n ymdrin â gwahanol agweddau fel seiberddiogelwch, rhwydweithio a rhaglennu.”

Ar ôl cwblhau ei gymhwyster, penderfynodd Rahim aros yn y coleg a gwneud cais am y brentisiaeth gradd, yn hytrach na mynd i ffwrdd i'r brifysgol.

“mi ges i gynnig lle ar gwrs gradd seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, ond dilynais y rhaglen brentisiaeth yng Ngholeg Llandrillo gan fy mod yn hapus ag ansawdd yr addysgu a’r adnoddau,” eglurodd.

“Roeddwn i hefyd yn teimlo y byddai’r rôl roeddwn i eisiau gwneud cais amdani, sef gweithio gyda’r GIG, yn werth chweil, felly roeddwn i’n meddwl mai dyna oedd yr opsiwn gorau i mi.”

Dywedodd Rahim am y brentisiaeth gradd: “Dw i’n meddwl ei fod yn wych. Yn yr un modd â'r BTEC, mae'r rhaglen prentisiaeth gradd yn cynnwys gwahanol unedau sy'n cyfuno'r dulliau ymarferol a damcaniaethol.

Rydych chi'n dysgu gan eich darlithwyr - ac oherwydd eich bod chi'n gweithio pedwar diwrnod yr wythnos rydych chi hefyd yn dysgu gan wahanol aelodau staff a sut maen nhw'n mynd ati i wneud tasgau a phrosiectau penodol.

Mae’n rhaid i chi ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gwaith a’r ochr academaidd. Ond oherwydd hynny rydych chi'n ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, ac yn dysgu llawer amdanoch chi'ch hun - rheoli amser, trefnu a sgiliau allweddol eraill.

Mae ceisio addasu i astudio a gweithio wedi bod yn heriol, ond mae’r gefnogaeth dw i wedi’i derbyn yn y gweithle ac yn y coleg wedi bod yn wych.”

Tynnodd Rahim sylw at unedau ar sgiliau ymchwil ac astudio, a dysgu seiliedig ar gyflogadwyedd fel rhai sy'n arbennig o ddefnyddiol. Mae hefyd wedi defnyddio cefnogaeth gyda'i ddyslecsia gan y ganolfan sgiliau ymchwil ac astudio yn y coleg.

Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i’r holl ddarlithwyr sydd wedi fy helpu yn y coleg, mewn Saesneg, mathemateg a chyfrifiadura - Andrew Scott, Emily Byrnes, Steve Jenkins, Stephen Sharp, James Lehart, Mark Roberts, Arfon Edwards, Inge Powell a Karen Thomas. Diolch hefyd i dîm seiberddiogelwch y GIG am eu harweiniad a'u cefnogaeth drwy gydol fy mhrentisiaeth.”

Ei gyngor i unrhyw un sy'n ystyried dod i'r coleg ydy i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael.

“Gweithiwch yn galed, trochwch eich hun a dysgwch gymaint ag y gallwch,” meddai Rahim. “Os oes gennych chi anhawster dysgu, ewch i'r afael â hynny a dod o hyd i dechnegau sy'n eich helpu i ddysgu.

Defnyddiwch yr holl adnoddau - gofynnwch am gyngor gan eich tiwtoriaid, gofynnwch am gefnogaeth os ydych chi'n cael trafferth, a defnyddiwch unrhyw raglenni sydd gan y coleg, bydd hynny o gymorth i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.”

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais am Brentisiaethau Gradd Grŵp Llandrillo Menai a ariennir yn llawn ym maes Seiberddiogelwch Cymhwysol neu Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26. Os ydych chi'n gweithio mewn rôl TG o unrhyw fath, cysylltwch â ni ar prentisiaethau@gllm.ac.uk. Dysgu mwy am brentisiaethau gradd yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date