Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd (1 diwrnod NEU hanner diwrnod a noson yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? Neu a ydych chi eisoes yn addysgu, ond yn awyddus i gael cymhwyster cydnabyddedig?

Yn ychwanegol, mae tystiolaeth o'r blynyddoedd diwethaf yn dangos bod cwblhau'r cwrs yma'n gwella potensial gyrfaol a chyflogaeth aelodau'r cwrs.

Pa un a ydych yn athro neu'n athrawes newydd neu brofiadol, bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa ym maes addysg ôl-orfodol. Cewch y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwyster a fydd yn eich galluogi i ddechrau neu i barhau i addysgu ym maes addysg bellach, ym maes dysgu oedolion neu ddysgu yn y gymuned, mewn carchardai neu ym maes dysgu seiliedig ar waith.

Os oes gennych radd yn barod, bydd y cwrs addysgu hwn yn addas i chi. Gan eich bod wedi cael profiad ym maes Addysg Uwch, bydd yn gyfle i chi ennill cymhwyster Lefel 6. Ni fwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai sydd am addysgu mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

  • Gradd Anrhydedd (o leiaf 120 credyd, gyda'u hanner ar Lefel 6 neu uwch)
  • Gwiriad manwl gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Tystiolaeth o sgiliau llythrennedd a rhifedd Lefel 2 (neu uwch)
  • Yn gallu cwblhau o leiaf 100 awr o ymarfer dysgu yn ystod y cwrs mewn amgylchedd cymeradwy (e.e. Addysg Bellach, addysg oedolion, y sector gwirfoddol neu gyda darparwr hyfforddiant sy'n derbyn cyllid cyhoeddus). Rhaid i chi gwblhau 40 awr o arsylwi ymarferwyr profiadol.

Gofynion ieithyddol:

  • Meistrolaeth dda ar y Saesneg neu Cymraeg, ynghyd â TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) gradd C/4 neu uwch
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor: meistrolaeth ar y Saesneg (IELTS lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol).
  • TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, gradd C/4 neu uwch.
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi'u haddysgu a'u hasesu yn Gymraeg/Saesneg.
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
  • TGAU Mathemateg yn ddymunol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
  • Siaradwyr Gwadd

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Lesley Surguy-Price (Rhaglen Arweinydd - Coleg Llandrillo): surguy1l@gllm.ac.uk

Christian Davies (Rhaglen Arweinydd - Coleg Menai): davies10c@gllm.ac.uk

Simon Evans (Rhaglen Arweinydd - Coleg Meirion-Dwyfor): simon.evans@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gallu chwilio am waith mewn nifer o wahanol sefydliadau addysg ôl-orfodol.

Os ydych eisoes yn addysgu, caiff eich sgiliau eu cydnabod yn ffurfiol ac mae'n bosibl y gallwch ymgeisio am swydd well.

Dewis arall fyddai parhau â'ch astudiaethau, gan ddilyn cwrs Meistr mewn Addysg neu yn eich maes arbenigol.

Gwybodaeth campws Bangor

Gwybodaeth am yr Uned

Modiwlau: Blwyddyn 1 (Modiwlau Cyffredinol):
  • Paratoi i Addysgu
  • Dysgu a Rhoi Addysgeg ar Waith
  • Cynllunio ac Asesu'r Dysgu
  • Ymarfer Proffesiynol 1
Modiwlau: Blwyddyn 2
  • Ymchwil Gweithredol
  • Gwella'r Dysgu, yr Addysgu a'r Asesu
  • Ymarfer Proffesiynol 2

Gwybodaeth campws Dolgellau

Gwybodaeth am yr Uned

Modiwlau: Blwyddyn 1 (Modiwlau Cyffredinol):
  • Paratoi i Addysgu
  • Dysgu a Rhoi Addysgeg ar Waith
  • Cynllunio ac Asesu'r Dysgu
  • Ymarfer Proffesiynol 1
Modiwlau: Blwyddyn 2
  • Ymchwil Gweithredol
  • Gwella'r Dysgu, yr Addysgu a'r Asesu
  • Ymarfer Proffesiynol 2

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Modiwlau: Blwyddyn 1 (Modiwlau Cyffredinol):
  • Paratoi i Addysgu
  • Dysgu a Rhoi Addysgeg ar Waith
  • Cynllunio ac Asesu'r Dysgu
  • Ymarfer Proffesiynol 1
Modiwlau: Blwyddyn 2
  • Ymchwil Gweithredol
  • Gwella'r Dysgu, yr Addysgu a'r Asesu
  • Ymarfer Proffesiynol 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Hyfforddiant Athrawon

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Hyfforddiant Athrawon

Darlithydd yn arwain dosbarth

Sefydliad dyfarnu