Asiantaeth Cyflogadwyedd a Menter - CAMVA
Bwriad CAMVA yw helpu dysgwyr ar eu taith i gyflogaeth, prentisiaeth, profiad gwaith neu hunangyflogaeth.
Mae CAMVA yn pontio'r bwlch rhwng dysgwyr a chyflogwyr ac rydym yn cynnig cyfleoedd i gyflogwyr lleol ymgysylltu â dysgwyr trwy gyfrwng y gwasanaethau isod.
I gael rhagor o wybodaeth am CAMVA, e-bostiwch - camva@gllm.ac.uk


Hysbysfwrdd Swyddi
I hysbysebu eich prentisiaethau neu'ch swyddi gwag llawn amser, rhan-amser neu dymhorol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen hysbysfwrdd swyddi.

Ffair Swyddi - digwyddiad Cwrdd â'r Cyflogwyr
Cymryd rhan yn y Ffair Swyddi - Mae digwyddiad Cwrdd â'r Cyflogwr yn cynnig llwyfan rhagorol i gyflogwyr ddod i gyswllt â darpar ymgeiswyr, ehangu eu cronfa dalent, a chryfhau presenoldeb eu brand. Mae'n gyfle i ymgysylltu â thalent yfory a gwneud argraff barhaol ar ddarpar weithwyr

Profiad Gwaith
Cofrestrwch gyda ni heddiw er mwyn gallu darparu profiad gwaith i'n dysgwyr a dod i'r digwyddiadau rydym yn eu trefnu i'n dysgwyr. Rydyn ni bob amser yn chwilio am gyflogwyr i ymgysylltu â'n dysgwyr.
Anfonwch neges e-bost i camva@gllm.ac.uk gan nodi enw eich cwmni, eich cyfeiriad, eich manylion cyswllt a sector eich diwydiant.
CAMVA yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Warant Pobl Ifanc i annog a chefnogi pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn dechrau busnes i ddatblygu eu syniadau.
