Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel A

Mae ein canolfannau Chweched Dosbarth yn gam nesaf delfrydol i chi os ydych yn gobeithio mynd ymlaen i brifysgol neu i waith ar ôl dilyn eich cyrsiau Lefel A.

Yn y coleg, cewch gyfleoedd gwych i wneud ffrindiau newydd, i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i gael ychydig o annibyniaeth.

Ein Canolfannau Chweched Dosbarth:

  • Dwyfor
  • Meirionnydd
  • Menai
  • Llandrillo-yn-Rhos
  • Y Rhyl

Enillodd 97.1% o'r dysgwyr raddau A* i E yn 2023.

Yn ogystal, mae ein colegau'n rhan o gynllun Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi'r rhai mwyaf galluog i wireddu eu potensial academaidd yn llawn ac i gael lle yn y prifysgolion gorau.

Dilynir cyrsiau Safon Uwch dros ddwy flynedd, gan ennill eich cymwysterau UG yn y flwyddyn gyntaf, a’r cymwysterau Safon Uwch llawn yn yr ail flwyddyn.

Bydd angen i chi ddewis lleiafrif o 3 pwnc Safon Uwch.

Mae'n bosibl i chi ganfod rhestr o'n holl bynciau Safon Uwch yma.

Logo Chweched/Sixth
Campws Coleg Llandrillo Rhos-on-Sea

Lefel A - Coleg Llandrillo (Llandrillo-yn-Rhos/Rhyl)

Campws Dolgellau

Lefel A - Dolgellau

Dewch i weld rhestr o'r holl gyrsiau Lefel-A sy'n rhedeg ar ein campws yn Nolgellau.

Dewch i wybod mwy...
Campws Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli

Lefel A - Pwllheli

Dewch i weld rhestr o'r holl gyrsiau Lefel-A sy'n rhedeg ar ein campws ym Mhwllheli.

Dewch i wybod mwy...
Campws Coleg Menai Llangefni

Llangefni

Dewch i weld rhestr o'r holl gyrsiau Lefel-A sy'n rhedeg ar ein campws yn Llangefni.

Dewch i wybod mwy...

Mwy o Ddewis

Rydym yn cynnig dros 30 o gyrsiau Lefel AS/A a gyflwynir gan diwtoriaid profiadol a chymwys dros ben. Gan fod dewis mor eang ar gael, rydych yn siŵr o ddod o hyd i bynciau sy'n addas i chi.

Yn ogystal, byddwch yn astudio Bagloriaeth Cymru sy'n cyfateb i gymhwyster Lefel A llawn ac yn werth pwyntiau UCAS gwerthfawr a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i astudio mewn prifysgol

Mwy o Gefnogaeth

Rydym yn gofalu am ein myfyrwyr ac am wneud yn siŵr eich bod yn wirioneddol fwynhau eich amser yn astudio gyda ni! Bydd eich Tiwtor Personol yn eich helpu i ymgynefino â bywyd yn y coleg a bydd yn cynllunio ac yn adolygu'ch cynnydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd eich targedau – beth bynnag fo'r rheini.

Yn ogystal, bydd ein Tîm cyfeillgar sy'n darparu Gwasanaethau i'r Dysgwyr ar gael i roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth i chi ar amrediad o faterion, yn cynnwys: cymorth i astudio, cyngor gyrfaol, cwnsela cyfrinachol a chyngor ar faterion ariannol.

Myfyrwyr yn y Llyfrgell

Mwy o Gyfleoedd

Mae astudio ar un o'n campysau Chweched Dosbarth yn gyfle delfrydol i wneud ffrindiau newydd, i ddysgu sgiliau newydd a dod o hyd i ddiddordeb neu hobi newydd. Fel un o'n myfyrwyr, byddwch hefyd yn gallu ymuno ag amrywiaeth o glybiau colegol: o glybiau chwaraeon a gweithgareddau hamdden i gymdeithas ddadlau a'r gymdeithas LGBT+.

Wrth astudio pynciau Lefel A yn ein canolfannau Chweched Dosbarth, cewch gyfle i fynd ar deithiau, gwneud gwaith maes a mynychu sgyrsiau a seminarau sy'n ymwneud â diwydiannau perthnasol.

Myfyrwyr yn defnyddio microsgop

Mwy o Gyfleusterau

Yn ein canolfannau Chweched Dosbarth ceir cyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy'n adlewyrchu'r byd go iawn. Pan na fyddwch mewn dosbarth, cewch ddefnyddio'r amrywiol gyfleusterau, yn cynnwys y llyfrgelloedd, y ganolfan chwaraeon a'r gampfa, neu ymlacio gyda phaned o goffi yn un o'n caffis a ffreuturau niferus.

Myfyrwyr Lefel A ar ganlyniadau da

Mwy o Lwyddiant

Mae myfyrwyr sy'n astudio gyda ni'n cael canlyniadau gwych!

Mae'r cyfraddau llwyddo yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi codi 2% ers y llynedd i 99%. Llwyddodd 77.3% o'r dysgwyr i gael graddau A* i C (cynnydd o 3% ers 2023), gyda 23% yn cael y graddau uchaf posibl sef A* ac A (yr un fath â 2023).

Llwyddodd 64 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, mwy nag erioed o'r blaen, i ennill y graddau angenrheidiol i fynd i brifysgolion Grŵp Russell, a bydd un yn mynd i Brifysgol Rhydychen. Mae chwech o fyfyrwyr hefyd wedi ennill y graddau i astudio Meddygaeth, sef y nifer uchaf erioed yn hanes y Grŵp.