Chloe yn Annog Merched Ifanc i fod yn rhan o'r Diwydiant Crefftau!
Mae Prentis Lefel 2 mewn Gwaith Asiedydd yn braenaru'r tir i ragor o ferched ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith a chrefftau.
Mae Chloe Bidwell, Prentis mewn Gwaith Asiedydd gyda chwmni Varcity Living, Bangor, a Choleg Menai, Bangor, yn annog myfyrwyr benywaidd eraill i ystyried gyrfa mewn maes crefft.
Mae Varcity Living yn berchen ar ac yn rheoli amrywiaeth o eiddo preswyl i fyfyrwyr yn ac o gwmpas Bangor. Mae dyletswyddau Chloe yn cynnwys atgyweirio a chynnal a chadw'r cyfleusterau yn yr eiddo preswyl, a sicrhau bod yr adeiladau eu hunain mewn cyflwr da. Mae gwaith Chloe yn cynnwys gosod ceginau, gwneud giatiau a phlaenio drysau. Mae'n mynychu campws Coleg Menai yn Llangefni unwaith yr wythnos, lle mae'n gweithio tuag at ennill ei chymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Gwaith Asiedydd.
Dywedodd Chloe: "Mae'n well gen i wneud gwaith ymarferol yn hytrach na gwaith academaidd traddodiadol. Rydw i'n mwynhau gweithio fel Asiedydd gan fy mod yn gweld y pethau rydw i wedi'u gwneud ac yn cael ymdeimlad o foddhad gwirioneddol ar ôl gorffen tasg!"
"Fel arfer fi yw'r unig ddynes ar y safle - mae bod yr unig ferch yn gallu bod yn eithaf heriol weithiau gan mai fi yw'r lleiaf bob amser. Mae hyn yn medru creu rhwystrau yn y gwaith ond rydw i'n dod o hyd i ffyrdd o oresgyn y rhwystrau hyn a chwblhau'r dasg. Rydw i'n gyrru ymlaen yn dda efo'r dynion ar y safle - ac er gwaethaf bod mewn diwydiant lle mae'r mwyafrif yn ddynion, maen nhw bob amser yn gefnogol ac yn fy helpu i gyflawni fy nodau ym maes gwaith asiedydd."
"Buaswn yn annog unrhyw ferched sy'n ystyried y math yma o yrfa i fynd amdani. "Gallai meddwl am weithio mewn diwydiant sydd wedi arfer bod yn ddiwydiant i ddynion yn bennaf wneud i chi deimlo'n nerfus, ond mae cymaint o gymorth a chefnogaeth ar gael i ferched sydd am weithio yn y diwydiant adeiladu a chrefftau.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol Brentisiaethau sydd ar gael yng Nghrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.