Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymdeithas Goginio Cymru'n dathlu degawd o lwyddiant eu partneriaeth â Choleg Llandrillo, Grŵp Llandrillo Menai

Dathlwyd partneriaeth lwyddiannus rhwng Cymdeithas Goginio Cymru a Grŵp Llandrillo Menai dros y ddegawd ddiwethaf trwy lofnodi cytundeb newydd.

Bydd y cytundeb yn sicrhau bod Tîm Coginio Iau Cymru, sy'n cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau ledled y byd, yn parhau i fod wedi'i seilio ar gampws y Grŵp yn Llandrillo-yn-Rhos lle mae rheolwr y tîm, Michael Evans, yn ddarlithydd.

Mae'r cytundeb yn golygu bod Grŵp Llandrillo Menai yn darparu lleoliad, nawdd a hyfforddwr i'r tîm iau, sy'n cynnwys cogyddion dawnus dan 23 oed.

Dechreuodd y bartneriaeth yn 2011 pan ail-ffurfiwyd Tîm Cogyddion Iau Cymru i gystadlu yng nghystadlaethau Coginio Olympaidd yn yr Almaen y flwyddyn ddilynol.

Mae'r tim wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru'n llwyddiannus, gan gynnwys cael medalau arian ac efydd yn y cystadlaethau Coginio Olympaidd y llynedd. Yr her nesaf i'r cogyddion ifanc yw cystadleuaeth Cwpan Coginio'r Byd a noddir gan gwmni Villeroy & Boch yn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd 2022.

Mae cysylltiad Cymdeithas Goginio Cymru â Grŵp Llandrillo Menai yn mynd yn ôl i 2006, pan gynhaliwyd Pencampwriaeth Coginio Rhyngwladol Cymru ar y safle am y tro cyntaf. Mae'r digwyddiad tridiau o hyd, sy'n denu prif gogyddion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a gweddill y byd, yn ddigwyddiad rheolaidd yn y coleg bellach a chynhelir y gystadleuaeth eleni rhwng 22 a 24 Chwefror.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Arwyn Watkins OBE: "Rydym wrth ein bodd yn adnewyddu ein partneriaeth werthfawr â Grŵp Llandrillo Menai am flwyddyn arall ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru 2022 yno, wedi absenoldeb am ddwy flynedd oherwydd y pandemig.

"Mae gan gogyddion a ddewiswyd i fod yn aelodau sgwad Tim Cogyddion Iau Cymru flwyddyn gyffrous o'u blaenau wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Coginio'r Byd yn Lwcsembwrg, un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol i gogyddion o bob rhan o'r byd.

"Y tîm iau sy'n meddu ar yr allwedd i'r dyfodol a gobeithio y bydd llawer o'r cogyddion ifanc yn mynd ymlaen i fod yn aelodau'r tîm hŷn ac yn cystadlu ar y lefel uchaf ar lwyfan y byd."

Dywedodd David Owen, Pennaeth Cynorthwyol Grŵp Llandrillo Menai: "Rydym ni'n falch o barhau i gefnogi Tîm Coginio Cenedlaethol Iau Cymru, sydd wedi bod yn meithrin a hybu doniau ifanc y genedl am bron i ugain mlynedd.

"Mae aelodau'r tim, llawer ohonyn nhw wedi bod yn fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai, wedi cystadlu mewn nifer o gystadlaethau ledled y byd, yn cynnwys Cwpan Coginio'r Byd a'r gystadleuaeth Coginio Olympaidd. Maen nhw wedi gweini canapés Dydd Gŵyl Dewi yn Rhif 10 Stryd Downing hyd yn oed!

"Mae esblygiad tîm iau dawnus, a hyfforddir gan Michael Evans, yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau dyfodol sgiliau coginio yng Nghymru, gan arddangos doniau'r aelodau a'r gorau o gynnyrch Cymru hefyd."

Gofynnir i unrhyw gogydd ifanc â diddordeb mewn bod yn aelod o Dîm Coginio Iau Cymru gysylltu â: office@culinaryassociation.wales

The agreement will see the Junior Culinary Team Wales, which flies the Welsh flag in competitions around the globe, continue to be based at the Grŵp’s campus in Rhos-on-Sea where team manager Michael Evans is a lecturer.

Under the agreement, Grŵp Llandrillo Menai provides a base, sponsorship and a coach for the junior team, which comprises talented chefs aged 23 years and under.

The partnership began in 2011 when the Junior Culinary Team Wales was re-formed for the Culinary Olympics in Germany the following year.

The team has gone on to represent Wales in style, including achieving silver and bronze medals at the Culinary Olympics last year. Next up for the young chefs is the Villeroy & Boch Culinary World Cup in Luxembourg in November 2022.

The CAW’s link with Grŵp Llandrillo Menai dates to 2006, when it hosted the Welsh International Culinary Championships (WICC) for the first time. The three-day event, which attracts top chefs from across the UK and around the world, is now a firmly established fixture at the college and is due to be held from February 22-24 in 2022.

CAW president Arwyn Watkins, OBE, said: “We are delighted to renew our valued partnership with Grŵp Llandrillo Menai for another year and look forward to staging the Welsh International Culinary Championships 2022 there, after a two-year absence due to the pandemic.

“Chefs selected for the Junior Culinary Team Wales squad have an exciting year ahead as they prepare to compete at the Culinary World Cup in Luxembourg, one of the top two international competitions for chefs from around the globe.

“The junior team holds the key to the future and hopefully many of the young chefs will progress to the senior team to compete at the highest level on the world stage.”

David Owen, assistant principal of Grŵp Llandrillo Menai, said: “We are delighted to continue our support for the Junior Welsh National Culinary Team, which has been promoting and nurturing the nation’s young talent for nearly 20 years.

“Members of the team, many of whom have been Grŵp Llandrillo Menai Hospitality & Catering students, have competed in a number of competitions across the globe, including the Culinary Olympics and Culinary World Cup. They have even served St David’s Day canapés at Number 10 Downing Street!

“The evolution of a talented junior team, managed by Michael Evans, is a positive step towards the future of culinary skills in Wales, not only showcasing their talents but also the best of Welsh produce.”

Any young chef interested in joining the Junior Culinary Team Wales is asked to contact office@culinaryassociation.wales