Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo yn cynnal Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch

Tyrd i gael gwybod am y gwahanol fathau o gyrsiau lefel prifysgol mae'r coleg yn eu cynnig, yn ogystal â'r cymorth ariannol sydd ar gael

Ddydd Iau 23 Mai bydd Coleg Llandrillo yn cynnal Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddysgu rhagor am y dewis helaeth o gyrsiau gradd a chyrsiau lefel prifysgol sydd ar gael yn y coleg.

Os wyt ti'n gorffen cwrs Lefel A neu gwrs Lefel 3 eleni, ac yn awyddus i gymryd y cam nesaf i'r brifysgol, neu os wyt ti'n awyddus i newid gyrfa neu gael dyrchafiad, mae gan y coleg gwrs lefel prifysgol sy'n addas i ti.

Golyga ein dosbarthiadau bychan na fyddi'n cael dy anghofio yng nghanol llu o fyfyrwyr eraill – ac y bydd gan ein staff arbenigol fwy o amser i roi cefnogaeth i ti.

A chydag amserlenni cyfleus sy'n cyd-fynd â dyletswyddau gwaith neu fywyd teuluol, cyrsiau lleol ac ystod eang o gymorth ariannol ar gael, fu yna erioed amser gwell i ddechrau ar bennod nesaf dy addysg.

Yn ystod y digwyddiad byddi di'n gallu:

  • Dysgu am y gwahanol fathau o gyrsiau lefel prifysgol sydd ar gael, yn cynnwys graddau, graddau sylfaen a Thystysgrifau a Diplomau Cenedlaethol Uwch (HND a HNC). Mae holl gyrsiau gradd Grŵp Llandrillo Menai i'w gweld yma.
  • Dod i wybod am yr ystod o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr, yn cynnwys benthyciadau a bwrsarïau. Ceir gwybodaeth fanwl ar ein tudalen cymorth ariannol.
  • Siarad â'n tiwtoriaid cyfeillgar a chael teimlad o sut beth fyddai astudio yng Ngholeg Llandrillo.

Bydd y Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch yn cael ei gynnal ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ddydd Iau 23 Mai rhwng 3pm a 7pm. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, clicia yma neu cer i https://www.gllm.ac.uk/cy/digwyddiadau/higher-education-discovery-event