Pa gyrsiau gradd rydym ni yn eu cynnig?
Rhagor o wybodaeth am y dewis helaeth o raglenni gradd sydd ar gael.
Rydym yn cynnig dewis helaeth o gymwysterau lefel uwch, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd, sydd wedi cael eu dilysu gan Brifysgol Bangor.
Mae llawer o'n cyrsiau'n arwain at gymwysterau Addysg Uwch galwedigaethol sydd wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr. Eu bwriad yw rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae ar gyflogwyr eu hangen a'ch helpu, p'un a ydych yn symud ymlaen i gyflogaeth neu'n awyddus i wella eich sgiliau a'ch gyrfa.
Mae ein graddau yn cynnwys:
Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth:
- BA (Anrh) Celf a Dylunio
- BA (Anrh) Celf Gain
- BA Anrh mewn Ffotograffiaeth
- Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio
- Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth
Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod
Busnes a Rheoli:
- BA (Anrh) Rheoli Busnes
- Gradd Sylfaen (FdA) Rheolaeth Busnes
- Gradd Sylfaen (FdA) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Cyfrifiadura, Technolegau Digidol a Datblygu Gemau:
- BSc (Anrh) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau
- BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd)
- Gradd Sylfaen (FdSc) Animeiddio 3D a Datblygu Gemau
- Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Datblygu Meddalwedd)
Prentisiaethau Gradd:
- BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Cymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BSc (Anrh) Gwyddor Data Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig:
- BSc (Anrh) mewn Rheoli Adeiladwaith
- Tystysgrif Addysg Uwch mewn Adeiladwaith
- Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Adeiladwaith
Cwnsela:
- BSc (Anrh) Cwnsela
- Gradd Sylfaen (FdSc) Theori Cwnsela
- Tystysgrif Lefel 6 mewn Goruchwylio ym maes Cwnsela Therapiwtig (TCSU-L6)
Peirianneg a Thechnoleg Ynni:
Prentisiaethau Gradd:
- BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant:
- BA (Anrh) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
- BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Atodol)
- BA (Anrh) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol
- Gradd Sylfaen (FdA) mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
- Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gradd Sylfaen (FdA) Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (yn amodol ar ddilysiad)
- Tystysgrif AU mewn Arferion Gofal Iechyd
Lletygarwch:
- BA (Anrh) yn y Celfyddydau Coginio
- Gradd Sylfaen (FdA) yn y Celfyddydau Coginio
- Gradd Sylfaen (FdA) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth:
Cyfryngau, Teledu a Ffilm:
- BA (Anrh) Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau Darlledu
- Gradd Sylfaen (FdA) Cyfryngau Creadigol a Chyfryngau Darlledu
Celfyddydau Perfformio, Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth:
Yr Heddlu a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored:
- BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
- Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored)
- Gradd Sylfaenol (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
Hyfforddiant Athrawon:
Teithio a Thwristiaeth:
Cyfleoedd Cyffrous Newydd ar gyfer 2025!
Rydyn ni'n adolygu ein cyrsiau gradd yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn gyfredol a pherthnasol.
Ym mis Medi 2025 (yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth), byddwn yn lansio cyfres o gyrsiau gradd sydd wedi'u diweddaru a'u cynllunio i roi hwb i'ch gyrfa.
Bydd y rhaglenni'n cynnwys:
- Gradd Sylfaen (FdA) a Gradd Anrhydedd (BA) yn y Cyfryngau Creadigol
- Gradd Sylfaen (FdA) a Gradd Anrhydedd (BA) ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (darpariaeth ddwyieithog ar gael yn Nolgellau a Llangefni)
- Gradd Sylfaen (FdSc) a Gradd Anrhydedd (BSc) mewn Cyfrifiadura
- Gradd Sylfaen (FdSc) a Gradd Anrhydedd (BSc) mewn Datblygu Gemau
- Gradd Sylfaen (FdSc) a Gradd Anrhydedd (BSc) mewn Hyfforddi ym maes Chwaraeon
- Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) – ar gael bellach fel cwrs llawn amser.
I gofrestru eich diddordeb, anfonwch neges e-bost i graddau@gllm.ac.uk
Prentisiaeth Gradd:
Mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr gwahanol i'r un addysg uwch academaidd arferol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio'n rhan-amser.
Rhai o fanteision prentisiaethau gradd:
- Dim dyled – Fel arfer mae myfyrwyr addysg uwch yn wynebu ffioedd dysgu o dros £9,000 y flwyddyn, ynghyd â'r costau byw sy'n gysylltiedig ag astudio oddi cartref. Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – felly cewch holl fanteision gradd gonfensiynol heb orfod dioddef yr anfanteision ariannol!
- Ennill cyflog wrth ddysgu – Fel Prentis Gradd byddwch yn cael eich cyflogi am ran o'r cwrs, sy'n golygu y byddwch yn ennill cyflog tra hefyd yn astudio.
- Cymhwyster diwydiannol – Mae'ch cymhwyster yn uniongyrchol berthnasol i'ch diwydiant, felly rydych chi a'ch cyflogwr yn meithrin y sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Prentisiaethau Gradd BSc (Anrh) mewn:
- BSc (Anrh) Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BSc (Anrh) Seiberddiogelwch Cymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BSc (Anrh) Gwyddor Data Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
- BEng (Anrh) Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol - Prentisiaeth Gradd
Gallwch ddarganfod mwy am ein hystod o brentisiaethau gradd yma.
Arweiniad i gyrsiau lefel prifysgol
Graddau Anrhydedd
Rydym yn cynnig dewis eang o Raddau Anrhydedd, a ddilyswyd ac a ddyfernir yn bennaf gan Brifysgol Bangor. Fel arfer, mae ein dysgwyr yn dechrau trwy ddilyn cwrs Gradd Sylfaen ar Lefel 4 a 5, ac yna'n mynd ymlaen i Radd Atodol Lefel 6. Mae mwyafrif ein rhaglenni gradd atodol yn cael eu darparu dros gyfnod o flwyddyn i fyfyrwyr llawn amser neu dros gyfnod mwy hyblyg o ddwy flynedd i fyfyrwyr rhan-amser. Yn ogystal, rydym yn cynnig dewis cyfyngedig o gyrsiau Gradd Anrhydedd tair blynedd, sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr sydd angen mwy o hyblygrwydd. Ar y cyfan, cwblheir y rhaglenni cynhwysfawr hyn dros dair blynedd ar gyfer myfyrwyr llawn amser neu cânt eu hymestyn dros bedair, pump neu chwe blynedd ar gyfer y rhai sy’n dewis astudio'n rhan-amser.
Graddau Sylfaen
Mae ein Graddau Sylfaen yn werth 240 o gredydau Addysg Uwch, sy'n cynnwys 40 credyd o ddysgu seiliedig ar gyflogadwyedd. Yn wahanol i raglenni israddedig arferol, mae Graddau Sylfaen yn canolbwyntio ar gyfuno theori â gwaith ymarferol mewn lleoliadau byd go iawn. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth a'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan helpu i wella'ch rhagolygon cyflogaeth a'ch paratoi ar gyfer mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Datblygwyd ein holl gyrsiau Gradd Sylfaen fel eu bod yn cynnig llwybrau dilyniant clir i gyrsiau Gradd Anrhydedd – un ai yng Ngrŵp Llandrillo Menai neu yn un o'r sefydliadau sy'n bartneriaid i ni.
Tystysgrif neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HNC/HND)
Mae ein cyrsiau Tystysgrif neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HNC/HND) wedi'u cynllunio ar gyfer y rhai sydd am gael cymhwyster lefel prifysgol sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Mae myfyrwyr llawn amser yn astudio cwrs HND/HNC am gyfnod o flwyddyn a myfyrwyr rhan-amser yn gwneud hynny am ddwy flynedd. Mae'r cyrsiau'n cynnig dull ymarferol a chymhwysol o ddysgu, gan roi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae llwybrau dilyniant ar gael i gyrsiau Gradd Sylfaen neu Brentisiaethau Gradd ar Lefel 5 neu 6.
Prentisiaethau Gradd
Gan fod Prentisiaethau Gradd yn cael eu hariannu'n llawn yng Nghymru ni fyddwch yn talu unrhyw ffioedd o gwbl! Mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr gwahanol i brifysgol trwy gyfuno gwaith llawn amser ag astudio'n rhan-amser.
- Ennill cyflog wrth ddysgu – Fel Prentis Gradd bydd eich cwrs yn cael ei gyfuno â'ch cyflogaeth, felly byddwch yn ennill cyflog tra hefyd yn astudio.
- Cymhwyster diwydiannol – Mae'ch cwrs yn uniongyrchol berthnasol i'ch diwydiant, felly rydych chi a'ch cyflogwr yn meithrin y sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo.
- Sgiliau cyflogadwyedd – Mae Prentisiaeth Gradd yn caniatáu i chi barhau i gael profiad gwaith ymarferol a datblygu eich gyrfa.
I gael lle ar gwrs Prentisiaeth Gradd bydd angen i chi fod yn gweithio un ai'n llawn amser neu'n rhan-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn diwydiant peirianneg/digidol/TG perthnasol. Ym mlwyddyn olaf eich Prentisiaeth Gradd, byddwch yn symud i Brifysgol Bangor i astudio am ddiwrnod yr wythnos i gwblhau'r cymhwyster BSc/BA (Anrh). Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn gradd o Brifysgol Bangor yn y Seremoni Raddio flynyddol.