Digwyddiad i Ddod i Wybod Rhagor am Addysg Uwch
Oeddet ti'n gwybod bod yna ddewis helaeth o gyrsiau gradd ar gael yma yn y coleg?
Os wyt ti'n gorffen cwrs Lefel A neu gwrs Lefel 3 eleni, ac yn awyddus i gymryd y cam nesaf i'r brifysgol, neu os wyt ti'n ddysgwr mwy aeddfed sy'n awyddus i newid gyrfa neu gael dyrchafiad, mae gennym gwrs lefel prifysgol sy'n addas i ti.
Golyga ein dosbarthiadau bychan na fyddi'n cael dy anghofio yng nghanol llu o fyfyrwyr eraill - ac y bydd gan ein staff arbenigol fwy o amser i roi cefnogaeth i ti. A chyda amserlenni cyfleus, cyrsiau lleol ac ystod eang o gymorth ariannol ar gael, fu yna erioed amser gwell i ddechrau ar bennod nesaf dy addysg.
Yn ystod y digwyddiad byddi di'n gallu:
- Dysgu am y gwahanol fathau o gyrsiau lefel prifysgol sydd ar gael, yn cynnwys graddau, graddau sylfaen a Thystysgrifau a Diplomau Cenedlaethol Uwch (HND a HNC). Gweld ein holl gyrsiau gradd.
- Dod i wybod am yr ystod o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr, yn cynnwys benthyciadau a bwrsarïau. Ceir gwybodaeth fanwl ar ein tudalen cymorth ariannol.
- Siarad â'n tiwtoriaid cyfeillgar a chael teimlad o sut beth fyddai astudio yma.
Agenda:
Cwrdd â'n harbenigwyr:
Darlithwyr academaidd:
Siaradwch yn uniongyrchol â'n tiwtoriaid academaidd gwybodus a fydd yn rhoi cyngor i chi am y dewis amrywiol o gyrsiau lefel gradd sydd ar gael. O gelfyddydau creadigol i reoli busnes, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.
Rhaglenni newydd:
Siaradwch â'n tiwtoriaid am y cyrsiau gradd newydd sbon sy'n dechrau ym mis Medi 2024:
- Cwnsela
- Arweinyddiaeth ym maes Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant
- Perfformio ar y Llwyfan ac ar y Sgrin
- Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Cyngor arbenigol ar y gefnogaeth ariannol sydd ar gael:
Dysgwch am y gwahanol fathau o gymorth ariannol sydd ar gael, gan gynnwys bwrsarïau ac ysgoloriaethau, i hwyluso eich profiad o addysg uwch a'i wneud yn fwy fforddiadwy.
Gwasanaethau lles i fyfyrwyr:
Dewch i gael gwybod am y gwasanaethau cynhwysfawr sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr, ac i gael sicrwydd y bydd eich llesiant yn flaenoriaeth i ni yn ystod eich taith academaidd.
Profiadau myfyrwyr:
Dewch i gael rhagflas ar fywyd myfyrwyr addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo drwy glywed ein myfyrwyr presennol yn sôn am y profiadau gwerthfawr maen nhw'n eu cael yma.
Gofal bugeiliol:
Dewch i gwrdd â'r tiwtoriaid personol a gweld sut maen nhw'n mynd ati i gefnogi eu myfyrwyr.
Gweithgareddau cyffrous:
Cwrdd â ‘Pepper y Robot’: Rhagflas ar fyd rhyfeddol cyfrifiadura a chyfle i ryngweithio â Pepper y Robot a fydd yn dangos y technolegau arloesol sy'n rhan o'n rhaglenni.
E-adnoddau:
Cyfle i gael profiad o'r byd digidol trwy weld sut i ddefnyddio'r dewis eang o e-adnoddau sydd gennym i'ch helpu gyda'ch gwaith.
Stondinau a chwisiau rhyngweithiol:
Dewch i ymgolli mewn stondinau a chwisiau rhyngweithiol a fydd yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn rhoi profiad o amgylchedd dysgu deinamig ein sefydliad.
Darlithoedd Agored – Cyfres A (Ystafell U113, Y Ganolfan Brifysgol):
3pm a 5pm: Cwnsela: Cydymdeimlad mewn Gwaith Therapiwtig
Archwilio pwysigrwydd bod yn gydymdeimladol gyda chi eich hun ac eraill wrth wneud gwaith therapiwtig, gan feithrin sgiliau hanfodol ar gyfer empathi ac iachâd.
3.30pm a 5.30pm: Arweinyddiaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Archwilio Moeseg
Archwilio'r problemau moesegol a'r safbwyntiau moesol sy'n hanfodol i arweinyddiaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
4pm a 6pm: Arweinyddiaeth ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Arwain mewn Cyfnod o Newid
Dysgu am y theorïau hollbwysig sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth a rheoli newid ym maes gofal iechyd.
4.30pm a 6.30pm: Cwnsela: Theori Ymlyniad
Edrych ar ddylanwad patrymau ymlyniad ar lesiant pobl a sut y maent yn ymwneud â'i gilydd, gan feithrin gwell dealltwriaeth o gysylltiadau dynol.
Darlithoedd Agored – Cyfres B (Ystafell U115, Y Ganolfan Brifysgol):
3pm a 5pm: Addysg ac Astudiaethau Plentyndod: Gwaith Tîm
Sesiwn ryngweithiol yn canolbwyntio ar waith tîm, a pham ei fod yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ym maes addysg a gofal plant.
3.30pm a 5.30pm: Rheoli Busnes: Nid ar gyfer Gyrfaoedd ym maes Busnes yn Unig
Golwg ar y gyrfaoedd amrywiol sydd i'w cael ym maes rheoli busnes a'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i bob math o wahanol ddiwydiannau.
4pm a 6pm: Perfformio ar y Llwyfan ac ar y Sgrin: Gweithdy Actio
Golwg ar y grefft o actio, asio symudiadau, defnyddio'r llais a datblygu cymeriad i ryddhau eich potensial creadigol ar y llwyfan ac ar y sgrin.
Darlithoedd Agored – Cyfres C (Ystafell U114, Y Ganolfan Brifysgol):
3pm a 5pm: Chwaraeon: Datblygu Athletiaeth
Golwg ar rôl Hyfforddwyr Chwaraeon
3.30pm a 5.30pm: Cwnsela: Cyflwyniad i Theori a Chwnsela sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Edrych ar y cysyniad o Theori sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, a sut y gellir ei addasu i fframwaith Cwnsela sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn er mwyn gwella a meithrin y berthynas therapiwtig rhwng cleient a chwnselydd.
4.30pm a 6.30pm Plismona: Rhagflas byr o Archwilio Safle Trosedd
Trosolwg o'r radd Plismona a dewisiadau o ran gyrfa.