Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Enillydd 'Aldi's Next Big Thing' yn canmol cefnogaeth y Ganolfan Technoleg Bwyd

Ar ôl ennill y sioe ar C4, aeth Gareth Griffith-Swain, sylfaenydd Fungi Foods, ati i gynhyrchu ei fadarch Pigau Barfog sych ar raddfa ddiwydiannol yn y ganolfan yn Llangefni

Ar ôl ennill Aldi's Next Big Thing canmolodd Gareth Griffith-Swain Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai.

O ganlyniad i'r sioe ar Channel 4, enillodd sylfaenydd Fungi Foods gytundeb i gyflenwi mwy na 1,000 o siopau Aldi ar draws y Deyrnas Unedig.

Defnyddiodd y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni i fasgynhyrchu'r madarch Pigau Barfog sych, a fydd ar gael ar silffoedd yr archfarchnad o ddydd Mercher ymlaen.

Defnyddiodd Gareth y ganolfan am y tro cyntaf y llynedd ar gyfer profion hyd oes silff, a hyfforddiant diogelwch bwyd pwrpasol trwy Brosiect HELIX, cyn cymryd rhan yn Aldi's Next Big Thing.

Yn y gyfres chwe rhan cawn weld cyflenwyr bwyd a diod yn cystadlu mewn amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys ciniawau, nwyddau pob, bwyd parti, bwydydd y byd, a melysion.

Ymddangosodd Gareth yn y bennod 'Healthy and Wholesome', a ddarlledwyd nos Fawrth. Gwelodd y gynulleidfa ei gynnyrch yn cael ei ddewis gan Julie Ashfield, Rheolwr Gyfarwyddwr Pryniant yn Aldi UK.

Ar ôl ennill y cytundeb, dychwelodd y dyn 33 oed i'r Ganolfan Technoleg Bwyd, gan rentu'r neuadd paratoi bwyd am chwe mis er mwyn iddo allu cynhyrchu'r madarch Pigau Barfog sych ar raddfa ddiwydiannol.

Gyda phrydles y neuaddau, roedd gan Gareth hefyd dechnolegwyr bwyd wrth law i'w gefnogi i ddefnyddio'r offer dadhydradu, ac i sicrhau bod y gweithdrefnau hylendid, ac iechyd a diogelwch cywir yn cael eu dilyn.

Dywedodd Gareth: “Mae cael mynediad i’r cyfleusterau wedi bod yn rhan hanfodol o’n llwyddiant. Heb y Ganolfan Technoleg Bwyd fyddem ni ddim lle'r ydyn ni heddiw.

“Mae’r technolegwyr bwyd wedi fy helpu ar bob cam o’r cynhyrchu, a does dim byd wedi bod yn ormod o drafferth iddyn nhw. Maen nhw wedi bod yn rhan hollbwysig o’r daith hon a byddwn yn argymell eu gwasanaethau i unrhyw gynhyrchydd bwyd a diod o Gymru.”

Ychwanegodd: “Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi fy nghefnogi ar amryw o brosiectau, o ddatblygu cynnyrch newydd, i brofi oes silff y cynnyrch, i fentora ar ddiogelwch bwyd.

“Mae’n gaffaeliad gwych i Grŵp Llandrillo Menai ac mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gynorthwyo busnesau bwyd a diod lleol heb ei ail. Mae’r gwasanaeth a gefais wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae wedi ein helpu i gynllunio camau nesaf y busnes a gweld sut y gallwn ni, yn ogystal â’r madarch, dyfu a datblygu!”

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd wedi'i sefydlu ers 1999 a chwaraea ran allweddol yn y gwaith o drosglwyddo gwybodaeth i'r diwydiant bwyd yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

  • Os yw eich cwmni bwyd a diod wedi'i leoli yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth a ariennir gan Brosiect HELIX gan y Ganolfan Technoleg Bwyd. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth. Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.