Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Taith anhygoel i Wlad Thai i ddysgu plant a gwirfoddoli gydag eliffantod

Mwynhaodd dysgwyr o bob rhan o Grŵp Llandrillo Menai brofiad bythgofiadwy

Yn ddiweddar, dychwelodd myfyrwyr o daith i Wlad Thai, lle buont yn gwirfoddoli mewn gwarchodfa eliffantod ac yn cyflwyno gweithdai STEM i blant ysgol.

Cafodd chwe dysgwr o Grŵp Llandrillo Menai brofiad unwaith mewn oes ar ôl gwneud cais llwyddiannus am le ar y daith 17 diwrnod.

Ar y daith, roedd Cerys Foulkes a Charlotte Wilkes sy'n astudio yng Ngholeg Llandrillo, Katie Davies (Coleg Menai, Bangor), Mair Armstrong (Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau), a Cilan Garbutt a Tomos Eardley (y ddau o Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli). Ymunodd naw myfyriwr o Goleg Pen-y-bont â nhw hefyd.

Ar ôl hedfan i Mae Sariang, fe dreulion nhw’r wythnos gyntaf yn gweithio gyda’r Future Sense Foundation, yn cyflwyno gweithgareddau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) i blant ysgol gynradd.

Dros y penwythnos, mwynhaodd y myfyrwyr beth o ddiwylliant y wlad, gan ymweld â themlau a blasu bwyd Thai traddodiadol, ymhlith gweithgareddau eraill.

Yn ystod yr ail wythnos, roedden nhw ym Mharc Natur yr Eliffantod ger Chiang Mai. Yma, fe fuon nhw’n paratoi bwyd i’r eliffantod, glanhau cytiau a helpu gyda thasgau hanfodol eraill.

Trefnwyd y daith gan Challenges Abroad, sy’n cynnal rhaglenni tramor i fyfyrwyr a ddatblygwyd ochr yn ochr â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Noddwyd y daith gan Gynllun Turing trwy ColegauCymru.

Agorodd y broses ymgeisio i ddysgwyr Lefel 3 ar draws campysau Grŵp Llandrillo Menai yn ôl yn yr hydref. Cafwyd dros 200 o geisiadau, a dewiswyd tua 60 ohonynt i gynllunio gweithdy STEM i'w gyflwyno i blant ysgol gynradd. Yna, dewiswyd y chwech olaf trwy gyfweliadau.

Yn gwmni iddynt ar y daith roedd Andrew Brookes, Swyddog Rhyngwladol y Grŵp, a Lisa Johnson, Rheolwr y Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Dywedodd Andrew: “Roedd yn daith lwyddiannus iawn. Rydyn ni wedi cael adborth da iawn gan y dysgwyr, y staff a'r gwirfoddolwyr yn Future Sense Foundation.

“Doedd y myfyrwyr ddim yn adnabod ei gilydd cyn i ni fynd, felly rhan o’r profiad oedd cyfarfod â phobl newydd. Roedden nhw'n nerfus iawn wrth fynd i'r maes awyr, ond maen nhw i gyd yn ffrindiau gorau rŵan!”

Roedd yn brofiad trawsnewidiol i’r dysgwyr, gyda’r rhan fwyaf ohonynt bellach yn awyddus i deithio mwy yn y dyfodol.

Ychwanegodd Andrew: “Maen nhw dal mewn cysylltiad â’r myfyrwyr o Ben-y-bont ar Ogwr ac maen nhw’n trefnu i gwrdd dros yr haf. Pan fyddan nhw’n gorffen yn y coleg mae llawer ohonyn nhw'n bwriadu cymryd blwyddyn i ffwrdd. Maen nhw wedi dod yn ôl fel pobl wahanol – roedd yn heriol iawn ond roedd y cyfan yn werth chweil.”

Canmolodd y dysgwyr y daith fythgofiadwy, gyda Charlotte yn dweud: “Roedd yn brofiad anhygoel ac mae wedi rhoi’r hyder i mi brofi pethau newydd.

“Roedd yn heriol ond mae wedi fy nysgu i beidio â phoeni am bethau, ac y dylwn i fynd amdani! Yn y dyfodol, hoffwn i deithio mwy, a mwynhau profiadau gwahanol ar draws y byd.”

Dywedodd Mair: “Mi wnes i fwynhau’r gweithdai gyda’r plant. Ges i hwyl yn dod i adnabod y plant a gwylio eu hwynebau wrth iddyn nhw gwblhau'r tasgau.

“Mi wnaethon ni adeiladu rocedi gyda nhw a’u lansio trwy neidio ar boteli. Roedd eu hwynebau’n werth eu gweld wrth i'w rocedi hedfan. Roedd y profiad gyda’r eliffantod yn dod yn ail agos.”