Myfyrwyr yn mwynhau ymweliad â Pharc Cerfluniau Swydd Efrog ac Oriel Hepworth
Cafodd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau gradd mewn celf yng Ngholeg Menai brofiad o weithiau cyfoes a hanesyddol a chyfle i fwynhau sgwrs gan un o gyn-fyfyrwyr y coleg sy’n gweithio fel curadur yn yr oriel
Yn ddiweddar, aeth myfyrwyr gradd ein cyrsiau celf ar daith astudio i Barc Cerfluniau Swydd Efrog ac Oriel Hepworth yn Wakefield.
Ar y daith cafodd dysgwyr y cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio, y cwrs BA (Anrh) mewn Celf a Dylunio a'r cwrs BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain a'r gyfle i fwynhau amrywiaeth eang o arddangosfeydd a chasgliadau pwysig.
Yn y ddau leoliad cafodd dysgwyr brofiad o gelf gyfoes a hanesyddol ynghyd â chyfleoedd i ymchwilio i'r byd celf ac i ddyfnhau eu dealltwriaeth ohono.
Roedd y daith yn gyfle iddynt weld y gweithiau maent yn eu hastudio â'u llygaid eu hunain yn hytrach na mewn llyfrau neu ar-lein. Drwy gydol y daith defnyddiodd y myfyrwyr gamerâu a llyfrau braslunio i gofnodi eu profiadau.
Ym Mharc Cerflunio Swydd Efrog cafodd y myfyrwyr gyfle i weld arddangosfeydd oedd yn cynnwys rhai o weithiau celf cyfoes gorau'r byd ac yn eu plith roedd gosodweithiau eang, gweithiau fideo arbrofol, a dyluniadau a gweithiau celf a chrefft amgylcheddol. Anogwyd y myfyrwyr i ystyried yn feirniadol y themâu oedd yn dod i'r amlwg yn yr arddangosfeydd, ac i gymryd digon o nodiadau a ffotograffau i'w defnyddio yn eu prosiectau yn y coleg.
Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd arddangosfa o waith William Kentridge ym Mharc Cerfluniau Swydd Efrog ac arddangosfa o waith Helen Chadwick yn Oriel Hepworth.
Yn Hepworth, cafodd y myfyrwyr gyflwyniad i'r casgliad a'r arddangosfeydd cyfoes gan y curadur Abi Shapiro – a ddilynodd y cwrs Celf Sylfaen yng Ngholeg Menai yn 2009.
Esboniodd Helen Jones, Arweinydd y Cwrs: “Roedd y daith astudio i Barc Cerfluniau Swydd Efrog ac Oriel Hepworth yn gyfle gwych i'r myfyrwyr roi cyd-destun i gelfyddyd gain hanesyddol a chyfoes drwy brofiad uniongyrchol.
“Bydd hyn yn ehangu eu dealltwriaeth o’u harferion eu hunain wrth ddatblygu eu gwaith stiwdio yn ystod y cwrs.”
Ychwanegodd: “Manteisiodd y myfyrwyr yn llawn ar y cyfle i fraslunio, gwneud nodiadau a chymryd ffotograffau o weithiau celf a oedd yn cyd-fynd â’u themâu personol.
“Rhoddodd amrywiaeth y gweithiau celf yn y ddau leoliad olwg newydd i'r myfyrwyr ar wahanol gyfryngau, arddulliau, a dulliau curadurol – sy'n hanfodol er mwyn i artistiaid ifanc allu ddatblygu eu lleisiau eu hunain. Bydd yr arsylwadau hyn yn cael dylanwad uniongyrchol ar eu prosiectau a'u gwaith stiwdio.”
Hoffech chi weithio yn y sector Celf a Dylunio? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.