Myfyrwyr yn cario fflam Tîm Cymru i ysbrydoli pencampwyr sgiliau'r dyfodol
Croesawodd Grŵp Llandrillo Menai'r fflam i gampysau Bangor, Llangefni a'r Rhyl wrth i'r cynnwrf am rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK fis nesaf gynyddu
Croesawodd Grŵp Llandrillo Menai fflam Tîm Cymru i'w gampysau ym Mangor, Llangefni a'r Rhyl yr wythnos hon cyn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK y mis nesaf.
Roedd y dysgwyr Yuliia Batrak ac Evan Klimaszewski ymhlith cludwyr y fflam wrth i daith gyfnewid 'Taith i Ragoriaeth' wneud ei ffordd ar draws Cymru.
Mae’r ras gyfnewid yn cynyddu'r cyffro wrth baratoi ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf o 26-28 o Dachwedd. Mae'r fflam hefyd yn taflu goleuni ar WorldSkills Shanghai 2026, sef cystadleuaeth sgiliau fwya'r byd - a elwir yn fyd-eang yn 'Gemau Olympaidd y Sgiliau'.
Mae Yuliia, myfyrwraig o Goleg Llandrillo, ac Evan, dysgwr o Goleg Menai, ill dau yn y ras i gystadlu yn Shanghai yn eu disgyblaethau priodol, ac mae'r ddau yn gyn-enillwyr rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills.
Roedden nhw ymhlith y rhai a ddewiswyd i gario'r fflam i ysbrydoli 14 o ddysgwyr y Grŵp sy'n cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills a SkillBuild eleni (rhestr lawn isod), yn ogystal â chystadleuwyr posibl yn y dyfodol.
Yuliia oedd yn cario'r fflam wrth iddi gymryd lle canolog yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl ddydd Mercher.
Rhoddodd y ferch 19 oed o Fae Colwyn gyflwyniad ysbrydoledig cyn trosglwyddo'r fflam i'r myfyrwyr peirianneg, Zack Arnold a McKenzie Goodwin-Cotterill, sy'n cystadlu yn rowndiau terfynol 2025.
Enillodd Yuliia, sy'n wreiddiol o Kyiv, y wobr aur mewn Gwasanaethau Bwyty yn rowndiau terfynol WorldSkills UK 2023, ac mae'n astudio Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd a Diod Lefel 3 ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.
Dywedodd: “Dw i'n teimlo mor freintiedig i fod yn cario’r fflam, ac i ysbrydoli myfyrwyr eraill i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Mae'r profiad a ges i ohono yn amhrisiadwy, a byddwn yn bendant yn argymell i bawb gymryd rhan os cewch gyfle. Fyddwch chi ddim yn difaru."
Gwyliodd tua 60 o blant ysgol lleol orymdaith y fflam. Roeddent yn ymweld â champws y Rhyl ar gyfer Her Sgiliau Peirianneg a gynhaliwyd gan Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a Gyrfaoedd Cymru.
Ddydd Iau, teithiodd y fflam o amgylch campws Llangefni, lle cafodd ei chario gan gystadleuwyr ym meysydd peirianneg, adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon, a Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith.
Roedd y fyfyrwraig peirianneg awyrennau, Connie Whitfield, yn un o gludwyr y fflam yn Llangefni.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn anrhydedd cario’r fflam ac ysbrydoli myfyrwyr eraill. Mae'r cystadlaethau sgiliau yn ymwneud â gwneud ffrindiau a rhannu profiadau yn ogystal â chystadlu. Mae fy mhrofiadau i yn y cystadlaethau hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel, ac mi fydda' i'n cael y cyfle hwnnw eto wrth i mi brofi'r Rowndiau Terfynol Cenedlaethol.”
Pan ofynnwyd iddi am ei chyngor i unrhyw un sy'n ystyried cystadlu yn y cystadlaethau sgiliau, dywedodd Connie: “Peidiwch ag oedi pan ddaw'r cynnig i gystadlu, oherwydd mae'n brofiad arbennig ac yn un bythgofiadwy.”
Ar ôl ymweld â Llangefni, aeth y fflam yn ei blaen i Fangor i ysbrydoli'r rhai ar gampws Llwyn Brain Busnes@LlandrilloMenai a gyrhaeddodd rownd derfynol Cyfrifeg, cyn cyrraedd y dysgwyr gyrhaeddodd rownd derfynol y Cyfryngau Digidol yn adran cyfryngau creadigol Coleg Menai.
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Mae cael ras gyfnewid fflam Tîm Cymru ar ein campysau ym Mangor, Llangefni a’r Rhyl wedi bod yn destun balchder mawr. Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau ein dysgwyr ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc dalentog a gweithgar.
“Mae hefyd wedi bod yn gyfle i arddangos y sgiliau y bydd ein dysgwyr yn cystadlu ynddynt yn rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig y mis nesaf - sgiliau maen nhw wedi'u datblygu gyda chymorth ein staff ymroddedig a'r cyfleusterau gwych yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
“Dymunwn y gorau i’n holl gystadleuwyr pan fydd Cymru’n cynnal rowndiau terfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf y mis nesaf.”
Bydd cannoedd o bobl ifanc yn cystadlu mewn mwy na 45 o gystadlaethau sgiliau ar draws lleoliadau yng Nghasnewydd, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe o Dachwedd 26-28 yn y rowndiau terfynol.
Ledled Cymru, mae colegau wedi ymuno â'i gilydd i ddathlu'r ymdrech y tu ôl i lwyddiant Tîm Cymru mewn cystadlaethau sgiliau galwedigaethol. Mae'r cystadlaethau hyn yn dechrau'n lleol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru, a gydlynir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cyn symud ymlaen i lefel genedlaethol a rhyngwladol trwy WorldSkills UK.
Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK 2025:
- Tomos Jones (Technegydd Cyfrifyddu, Busnes@LlandrilloMenai)
- Lowri Hughes (Technegydd Cyfrifyddu, Busnes@LlandrilloMenai)
- Connie Whitfield (Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen, Coleg Menai)
- Oliver Weldon (Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen, Coleg Menai)
- Guy Geurtjens (Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Coleg Menai)
- Cai Owen (Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Coleg Menai)
- Aron Hughes (Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Coleg Menai)
- Matthew Owen (Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Coleg Menai)
- Iwan Nicklin (Electroneg Ddiwydiannol, Coleg Menai)
- Kayleigh Blears (Trin Gwallt, Coleg Llandrillo)
- Zack Arnold (Ynni Adnewyddadwy, Coleg Llandrillo)
- Mckenzie Goodwin-Cotterill -(Ynni Adnewyddadwy, Coleg Llandrillo)
Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol SkillBuild 2025:
- Luke Quarless (Plastro, Coleg Menai)
- Ryan Jones (Plastro, Coleg Menai)
I gychwyn eich cystadleuaeth sgiliau yng Nghymru ac am ragor o wybodaeth am sut allwch chi gymryd rhan fel cystadleuydd, cyflogwr, neu hyrwyddwr sgiliau, ewch i: https://inspiringskills.gov.wales/