Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.
Newyddion Grŵp
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi ennill Gwobr Amgylcheddol Lefel 5 y Ddraig Werdd eleni eto, mewn cydnabyddiaeth o'i reolaeth amgylcheddol effeithiol.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, cynhaliodd Grŵp Llandrillo Menai amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai ar gyfer ei fyfyrwyr mewn ymgais i hybu eu lles.
Mae pedwar o fyfyriwr y Grŵp yn aelodau o garfan dan 18 Ysgolion Cymru'r Gymdeithas Bêl-droed (FA) a enillodd y 'Centenary Shield' yn ddiweddar ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr.
Dros yr wythnos ddiwethaf mae Grŵp Llandrillo Menai wedi codi'r swm sylweddol o £273 ar gyfer ei helusen bartner y flwyddyn, Shelter Cymru.
Mae Grŵp Llandrillo Menai a chwmni Sbarduno yn cydweithio ar gynllun i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Dathlwyd gwaith eithriadol Grŵp Llandrillo Menai a’i ymrwymiad i gefnogi lles ei ddysgwyr, gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM).
Ymwelodd yr aelod seneddol dros Ynys Môn Virginia Crosbie â phencadlys Mona Lifting yn Llangefni ddydd Gwener, ynghyd â thîm y prosiect o Academi Ddigidol Werdd Busnes@LlandrilloMenai i ddysgu mwy am fuddsoddiad newydd £50,000 y cwmni mewn pŵer solar Ffotofoltäig (PV).
Dyfarnwyd medalau o 20 categori gwahanol i 33 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ddoe (9 Mawrth).
Cafwyd seremoni wobrwyo yn ddiweddar i ddathlu a chydnabod gwaith aelodau staff ledled Grŵp Llandrillo Menai am eu gwaith a’u hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.