Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Partneriaeth Newydd i Feithrin Sgiliau STEM

Mae Grŵp Llandrillo Menai a chwmni Sbarduno yn cydweithio ar gynllun i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Lluniwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau sefydliad, a bydd Sbarduno, cwmni annog ymgysylltiad â STEM sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru, yn defnyddio labordai newydd sbon Grŵp Llandrillo Menai ar gampysau'r Grŵp yn Llangefni, Pwllheli a Dolgellau i gynnig rhaglen eang o ddigwyddiadau i annog ymgysylltiad â STEM a hyrwyddo gyrfaoedd STEM i bobl ifanc.

Bydd myfyrwyr cyfredol Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn elwa o'r digwyddiadau a'r sesiynau a gynhelir gan Sbarduno, a bydd y ddau sefydliad yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau apelgar i hyrwyddo STEM ar draws gogledd Cymru mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Eglurodd Awen Ashworth, Perchennog Sbarduno,

“Dyma gyfle cyffroes iawn i Sbarduno! Rydw i'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai ar y tri safle i ysbrydoli pobl ifanc Ynys Môn a Gwynedd.

Mae cydweithio a rhannu'r un egni yn cryfhau'r gefnogaeth y gallwn ei gynnig i Wyddonwyr y dyfodol, drwy wella eu dealltwriaeth o'r cyfleodd STEM sydd ar gael yn y rhanbarth."

Dywedodd Aled Jones-Griffith - Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor,

"Rydym yn falch iawn o'r cyfle i gydweithio gyda Sbarduno ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Awen a'i thîm i gynnig sesiynau diddorol ac apelgar i bobl ifanc gogledd Cymru. Ein gobaith ydy y bydd y rhain yn eu hysbrydoli i weithio gyda STEM yn y dyfodol."

Ychwanegodd,

"Rydym wedi buddsoddi'n helaeth yn ein campysau er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn derbyn eu haddysg mewn cyfleusterau, fel ein labordai a'n gweithdai peirianneg, sydd o safon diwydiant. Bydd hyn yn eu paratoi i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes STEM".