Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mona Lifting yn buddsoddi mewn solar wrth i’r cwmni anelu tuag at Sero Net

Ymwelodd yr aelod seneddol dros Ynys Môn Virginia Crosbie â phencadlys Mona Lifting yn Llangefni ddydd Gwener, ynghyd â thîm y prosiect o Academi Ddigidol Werdd Busnes@LlandrilloMenai i ddysgu mwy am fuddsoddiad newydd £50,000 y cwmni mewn pŵer solar Ffotofoltäig (PV).

Mae’r Academi Ddigidol Werdd, sy’n cael ei chyllido drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKCRF), yn gweithio’n agos gyda mentrau bach a chanolig i ddarparu adroddiad gwerthuso a chefnogaeth a chyngor ymgynghoriaeth i’w helpu i addasu ac i leihau eu hôl troed carbon.

Roedd Mona Group ymhlith y cyntaf i elwa o’r prosiect sydd wedi galluogi cwmnïau i weithio gydag ymgynghorydd ynni a chynaladwyedd, gyda phob ymgynghoriad yn arwain i ‘fap ffordd tuag at sero net’.

Fel mae Gethin Rees Jones, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Mona Group yn ei egluro: “Mae’r prosiect hwn wedi rhoi dadansoddiad trylwyr i ni o’n gweithrediadau. Helpodd ein ymgynghorydd ynni a chynaladwyedd ni i ddeall pa rannau o’r busnes rydym angen canolbwyntio arnynt wrth i ni ymdrechu i leihau ôl troed carbon y cwmni.

“Roeddem, fel cwmni, wedi meddwl gosod solar PV yn flaenorol ond mae’r gefnogaeth a’r wybodaeth mae Digidol Werdd wedi ei roi i ni wedi ein galluogi ni i ddadansoddi’r data ac i gael dealltwriaeth o’n hôl troed carbon presennol, a ddylanwadodd wedyn ar ein penderfyniad i ymrwymo i’r buddsoddiad.

“Gyda chymorth y prosiect, rydym nawr yn cynllunio ar gyfer buddsoddiadau pellach. Mae datblygiadau’r dyfodol yn cynnwys pwyntiau gwefru EV, amrywio’r cerbydau i gynnwys cerbydau trydan a gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i osod mwy o dechnolegau adnewyddadwy i gyd-fynd â solar.”

Pan yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd Virginia Crosbie: “Mae’n bleser ymweld â Mona Group i weld drosof fy hun y buddsoddiad maent wedi ei wneud eisioes mewn technoleg adnewyddadwy ac i ddysgu mwy am eu cynlluniau buddsoddi i’r dyfodol.

“Mae’n sefydliad sy’n gweithio’n effeithiol gyda mi wrth i mi wthio ‘mlaen gyda fy mlaenoriaethau i ddod â swyddi a buddsoddiad i’n cymunedau. Mae hefyd yn esiampl gwych o sut mae arian Llywodraeth y Deyrnas Unedig, drwy’r gronfa UKCRF, yn dod â newid go iawn yma ar Ynys Môn. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn gyflawni llawer a diolch i Mona am fy ngwahodd.”

Hyd yn hyn, mae prosiect yr Academi Ddigidol Werdd wedi gweithio gyda 25 o fusnesau Ynys Môn a 30 arall yng Ngwynedd. Mae’r prosiect yn barod i ddarparu mwy ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd ac hefyd i ehangu’r budd i gwmnïau yng Ngogledd Cymru drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dywedodd y Rheolwr Prosiect Gary Jones: "Mae busnesau blaengar fel Mona Group yn esiampl gwych o sut mae’r Academi Ddigidol Werdd wedi eu galluogi i gynllunio ac i fuddsoddi mewn Sero Net. Mae cynlluniau datgarboneiddio’r academi yn rhoi cynllun gellir ei weithredu, sy’n berthnasol i fusnes, i fusnesau allu cyflawni hynny.

“Rydym yn y broses o ehangu prosiect yr Academi Ddigidol Werdd gyda’r gobaith o sicrhau cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda’n nod uchelgeisiol o gefnogi cannoedd yn fwy o fusnesau ar draws Gogledd Cymru gyfan.”

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai, ac yn darparu hyfforddiant sydd wedi’i dargedu’n benodol tuag at fusnesau. Drwy’r prosiect hwn, y nod yw i helpu busnesau i gymryd camau realistig i gyfarfod eu hamcanion amgylcheddol ac i gynyddu eu gallu digidol.