Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Coleg yn cael eu gwobrwyo am Ofal a Chymorth i Ddysgwyr

Dathlwyd gwaith eithriadol Grŵp Llandrillo Menai a’i ymrwymiad i gefnogi lles ei ddysgwyr, gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM).

Yng nghynhadledd ddeuddydd UCM Cymru, dyfarnwyd dwy dystysgrif cydnabyddiaeth i’r Grŵp; Ymrwymiad i Les ac Ymgysylltiad Myfyrwyr, ac Ymrwymiad i Iechyd a Chefnogaeth Rywiol.

Mae cefnogaeth helaeth i les, cyngor cyfrinachol ac arweiniad llesiant ar gael i ddysgwyr a staff ar draws holl gampysau Grŵp Llandrillo Menai trwy'r Gwasanaethau i Ddysgwyr.

Mae cymorth 24/7 ar gael drwy’r Hwb Llesiant ar-lein hefyd. Yn ogystal â hyn, gall dysgwyr elwa o gynlluniau fel cynnyrch misglwyf am ddim, a'r cynnig i gael brecwast am ddim.

Roedd cynhadledd UCM Cymru, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn gyfle i ddysgwyr a staff drafod polisïau, rhannu syniadau a rhwydweithio gyda cholegau a phrifysgolion eraill.

Dywedodd Terry Tuffrey, Llywydd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai,

“Roedd yn wych derbyn cydnabyddiaeth gan UCM Cymru am y gwaith parhaus gan staff a myfyrwyr ar draws y Grŵp”

“Yn y gynhadledd, cafodd myfyrwyr addysg bellach ac uwch gyfle i gymryd rhan yn natblygiad polisi UCM Cymru, a chawsom gyfleoedd i ddylanwadu ar gyfeiriad UCM Cymru i gynrychioli pob dysgwr. Diolch i UCM Cymru am ddarparu llwyfan gwych i ni rannu ein barn”.

Meddai Phil Jones, Pennaeth y Gwasanaethau i Ddysgwyr a Marchnata,

“Rydym yn hynod falch o’r gwasanaethau cymorth gwych sydd ar gael i’n myfyrwyr. Mae cael ein cydnabod yn y gynhadledd yn dipyn o gamp – ac mae cydnabyddiaeth flynyddol gan UCM Cymru yn dyst i waith caled y staff ar draws y Grŵp.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau i Ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai, ⁠cliciwch yma.

I gael mynediad i Hwb Lles Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.