Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwyddiant Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai Mewn Carfan Sy'n Creu Hanes

Mae pedwar o fyfyriwr y Grŵp yn aelodau o garfan dan 18 Ysgolion Cymru'r Gymdeithas Bêl-droed (FA) a enillodd y 'Centenary Shield' yn ddiweddar ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr.

Roedd Cai Evans, Osian Evans a Fabrizio Murtas o Goleg Menai a Cian Pritchard o Goleg Meirion-Dwyfor wedi'u cynnwys yn y garfan a oedd dan arweiniad Marc Lloyd Williams, Darlithydd Chwaraeon a Chydlynydd Academi Coleg Menai.

Mae Marc yn gyn-beldroediwr proffesiynol â phrofiad helaeth o chwarae'n broffesiynol yn y Gynghrair Pêl-droed gyda Stockport County, yn ogystal â rhai clybiau yng Nghymru. Mae hefyd yn ohebydd ar y cyfryngau yn ei amser sbâr ar BBC ac ar S4C.

Yn ystod yr ymgyrch, enillodd tîm Cymru dair gêm, a daethant yn gyfartal mewn un gêm arall.

Meddai Marc Lloyd Williams,

"Mae'r ymgyrch hon wedi bod yn brofiad ardderchog i'r chwaraewyr - mae bod yn rhan o'r achlysur hanesyddol hwn yn rhywbeth y bydda i, a nhw, yn ei drysori am amser hir.

Roedd hi'n wych i ennill y tlws ddeuddeg mis yn ôl, a hynny am y tro cyntaf mewn 41 o flynyddoedd - ond roedd y tymor hwn yn anoddach byth, roedd pawb eisiau ein curo ni! Felly mae gorffen yr ymgyrch yn ddiguro yn dysteb i waith caled y chwaraewyr a'r staff!"

⁠Mae'r llwyddiant hwn yn dangos pa mor bwysig ydy'r coleg i'r Academi Pêl-droed. Mae chwaraewyr a rheolwyr wedi profi llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol, yn ystod y tymor hwn, a dros y blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Catherine Smith, Rheolwr y Maes Rhaglen Chwaraeon yng Ngholeg Menai:

Rydym yn falch iawn o Cian, Osian, Fabrizio a Cai ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddilyn eu llwybr disglair ym maes pêl-droed."

Gobeithio bydd y llwyddiant hwn yn annog rhagor o bêl-droedwyr disglair i ymuno â'r coleg a'r academi pêl-droed a fydd, gobeithio, yn parhau i lwyddo ar lefel genedlaethol a rhyngwladol."

Os ydych chi'n bwriadu dilyn cwrs academaidd neu alwedigaethol ar unrhyw un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai fis Medi ac os hoffech chi gymryd rhan yn yr academïau chwaraeon, holwch diwtor eich cwrs am ragor o fanylion.