Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

⁠Myfyrwyr yn Adeiladu a Rasio Eu Cychod eu Hunain!

Yn ddiweddar, fel rhan o ddiwrnod ymweld â Chanolfan Conwy yn Llanfairpwllgwyngyll, rhoddodd myfyrwyr Peirianneg Forol eu cychod eu hunain ar brawf ar y Fenai.

Cafodd y myfyrwyr o Goleg Llandrillo, sy’n rhan o’r ddarpariaeth ysgolion 14-16 oed, rasio ei gilydd yn eu cychod padlo eu hunain. Yna cawsant gyflwyniad i gychod pŵer, gan ddysgu sut i yrru cwch yn ddiogel wrth symud mewn lle cyfyng, ac ar gyflymder.

O ddechrau'r prosiect, y myfyrwyr oedd yn arwain ym mhob agwedd o'r broses adeiladu. Gan weithio mewn timau, mae'r dysgwyr wedi dewis a pharatoi deunyddiau ac wedi gweithio gydag amrywiaeth o offer llaw a phŵer i adeiladu eu cychod i'r fanyleb dan sylw. I orffen, buont yn treulio amser yn sandio'r coed ac yn paentio'r cychod.

Dywedodd Gavin Jones, Rheolwr y Maes Rhaglen,

“Roedd y diwrnod yng Nghanolfan Conwy yn brofiad gwych i’n carfan 14-16 oed, roedd yn wirioneddol werth chweil gweld y dysgwyr yn ennyn brwdfrydedd ac ymgysylltu, yn dysgu sgiliau newydd ac yn gweithio fel tîm”.

Ychwanegodd,

“Mae’r Adran Peirianneg Forol ac Adeiladu Cychod yng Ngholeg Llandrillo yn cynnig ystod o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn, a all arwain at yrfaoedd gwych yn y diwydiant morol wrth i ni weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a rhai mawr rhyngwladol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan, neu cysylltwch â ni!"

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg Forol, cliciwch yma.