Myfyrwyr Peirianneg yn serennu mewn cystadleuaeth F1
Yn ddiweddar, cynhyrchodd myfyrwyr peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor y car cyflymaf mewn cystadleuaeth ranbarthol, Gogledd Cymru ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pynciau STEM.
Hanfod y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno, oedd creu car Fformiwla 1 gan ddefnyddio technoleg Fusion 360 a pheiriant melino CNC. Ar ôl rowndiau cynderfynol cystadleuol iawn, dewiswyd dau dîm o Goleg Meirion-Dwyfor i fynd drwodd i'r rowndiau terfynol.
‘Purple Bullet’ - oedd y tîm a gynrychiolodd campws Pwllheli, oedd yn cynnwys Daniel, Scott, Loui, Ryan a Jac, sydd i gyd yn astudio cwrs BTEC Lefel 3 Peirianneg Uwch yn y coleg.
Bu tîm ‘Dreigiau Dolgellau’ yn cynrychioli safle Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, a oedd yn cynnwys myfyrwyr Peirianneg, Gethin, Ned a Sïon - a enillodd y wobr am y car cyflymaf.
Yn ystod y dydd bu’r myfyrwyr yn arddangos eu gwaith, yn rhoi cyflwyniad llafar i banel o feirniaid ac yn cyflwyno darluniau technegol, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfres o rasys.
Meddai Emlyn Evans, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor,
"Yn ystod y 3 mis diwethaf mae'r myfyrwyr wedi cynnal sesiynau amrywiol i godi arian ar gyfer tâl mynediad y gystadleuaeth, cludiant i'r digwyddiad, a chrysau-t. Roedd gan bob dysgwr ran bwysig i'w chwarae fel rhan o'r tîm i sicrhau eu llwyddiant."
“Hoffem hefyd ddiolch i noddwyr y ddau dîm, BEATranslation Services a EESW (Cynllun Addysg Peirianneg Cymru). Diolch hefyd i Bryn Jones o Goleg Menai am ei gefnogaeth yn ystod y prosiect!”
Os hoffech ddilyn gyrfa ym maes Peirianneg, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau Peirianneg yma.