Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhian, Yuliia a Callum yn ennill medalau Cogydd Commis y Flwyddyn

Rhyngddynt, enillodd y myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo dair medal aur ac un efydd yn y digwyddiad yn Lerpwl

Enillodd Rhian James, Yuliia Batrak a Callum Hagan, ill tri yn fyfyrwyr yng Ngholeg Llandrillo, fedalau yng nghystadlaethau Cogydd Commis y Flwyddyn ACF Northwest.

Enillodd Rhian fedal aur yn y ddwy gystadleuaeth gwasanaeth bwyty (gwneud flambé a choffi arbenigol, a gosod bwrdd a phlygu napcyn).

Enillodd Yuliia fedal aur yng nghategori Cogydd Commis y Flwyddyn, a chipiodd Callum yr efydd yng nghystadleuaeth Cogydd cynnyrch crwst Commis y Flwyddyn.

Cynhaliwyd Cystadlaethau Cogydd Commis y Flwyddyn y Gogledd-orllewin 2024 yr ACF (Association Culinaire Française) yng Ngholeg Dinas Lerpwl.

Denodd y digwyddiad tua 30 o geisiadau o bob rhan o Lerpwl, Manceinion, Wigan, Warrington, Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Hawliodd Rhian, sy’n astudio Goruchwylio ym maes Gweini Bwyd a Diod yn Broffesiynol Lefel 3, fedal aur yn y digwyddiad am yr ail flwyddyn yn olynol.

Roedd Yuliia, sy’n astudio Gweini Bwyd a Diod Lefel 2, yn cystadlu mewn categori coginio am y tro cyntaf y flwyddyn academaidd hon. Bu'n canolbwyntio’n ddiweddar ar gystadlaethau blaen tŷ gan gynnwys ennill y categori Gweini mewn Bwyty yn rownd derfynol WorldSkills UK y llynedd.

Mae cystadlaethau'r ACF yn rhoi prawf ar allu cogyddion ifanc i greu seigiau clasurol, a gwnaeth Yuliia argraff ar y beirniaid gyda’i tharten siocled a'i Baba au Rum.

Meddai: “Roedd yn brofiad gwych mynd i Lerpwl a gweld sut mae colegau gwahanol yn rhedeg eu cyrsiau, gweld ceginau gwahanol a gweithio gyda gwahanol offer.

“Fe wnes i gystadlu mewn cystadlaethau coginio Cymreig y llynedd, ond dyma oedd fy nghystadleuaeth fawr gyntaf fel cogydd. Roedd hi'n para am dair awr. Ro'n i wrth fy modd yno.

“Mae cystadlaethau blaen y tŷ a chystadlaethau cegin yn wahanol iawn, gyda rheolau gwahanol a gwahanol bethau i feddwl amdanynt. Mewn cystadlaethau cegin mae’n rhaid i chi fod yn gyflym, yn lân a dangos cymaint o’ch sgiliau ag y gallwch.”

Roedd Callum yn cystadlu yn ei gystadleuaeth gyntaf fel cogydd, a gwnaeth saig o frithyll gyda saws menyn a 'Florentine' Wyau.

Roedd yn anlwcus i golli allan ar aur, gyda'r beirniaid yn dweud ei bod yn hynod o dynn rhwng y tri chystadleuydd gorau.

“Dywedodd y beirniad y byddai pinsiad arall o sesnin wedi golygu y byddwn i wedi ennill, felly mae hynny’n dangos pa mor agos oedd hi rhwng y tri uchaf,” meddai Callum.

“Mae’n rhoi mwy o gymhelliant i mi wthio fy hun. Byddaf yn cystadlu mewn cystadleuaeth pysgod yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a byddaf yn anelu at fynd mor bell ag y gallaf, a gobeithio ennill.

Mae Callum yn astudio Coginio Proffesiynol (Cegin a Phantri) Lefel 3, a dywedodd: “Dwi’n mwynhau’r cwrs yn fawr. Dwi'n frwdfrydig iawn am fwyd ac am weithio’n galed i fynd mor bell ag y galla' i yn y diwydiant.”

Dywedodd Mike Evans, y darlithydd arlwyo: “Mae’r ACF yn gystadleuaeth dda i fyfyrwyr hogi eu sgiliau. Mae'r seigiau'n draddodiadol ac yn glasurol iawn - gallwch chi roi eich dehongliad eich hun arnynt ond mae'n rhaid i chi gael rhai agweddau penodol. Mae'n dda er mwyn paratoi ar gyfer cystadlaethau mwy.

“Mae Rhian, Yuliia a Callum wedi gwneud yn arbennig o dda. Maen nhw i gyd wedi gorfod gwneud gwaith y tu allan i'w diwrnod dysgu arferol, dod i mewn ar eu diwrnodau i ffwrdd, ac aros ar ôl ar ôl eu dosbarthiadau i hyfforddi ar ei gyfer. Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.”

Bydd Rhian, Yuliia a Callum ill tri yn cael eu gwahodd i Wobrau a Chinio Gourmet Llywyddion ACF ar Fai 9 ym Manceinion, lle bydd eu gwobrau yn cael eu cyflwyno’n ffurfiol iddynt.

Ydych chi eisiau gweithio ym maes lletygarwch ac arlwyo? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai