Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Argraffydd 3D, yr unig un o'i fath, wedi'i roi i'r coleg

Mae gan y peiriant anferth, sydd o’r radd flaenaf, gartref newydd yng Ngholeg Menai i gydnabod gwaith arloesol yr adran beirianneg mewn dylunio a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur

Mae Coleg Menai wedi derbyn argraffydd 3D enfawr, yr unig un o'i fath, yn rhodd gan y cewri technolegol Autodesk.

Adeiladwyd y peiriant o’r radd flaenaf gan fyfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Warwick ar y cyd ag Autodesk – cwmni sy’n arwain yn fyd-eang ar greu meddalwedd ar gyfer effeithiau arbennig ffilm, gweithgynhyrchu a dylunio, ac adeiladu.

Mae’r argraffydd 3D bellach ar gampws Coleg Menai yn Llangefni. Cafodd ei roi i gydnabod gwaith arloesol yr adran beirianneg mewn dylunio a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur.

Dywedodd y darlithydd peirianneg Iwan Roberts: “Nid peiriant yn unig yw'r argraffydd 3D 1m 3 sydd newydd gael ei roi i ni, mae’n borth i bosibiliadau di-ben-draw.

“Gyda maint yr argraffydd hwn, gallwn gerflunio arloesedd a chreu creadigrwydd. Mae gennym lawer o argraffwyr 3D llai yn y coleg, ond mae cynhyrchion mwy angen is-gydosod sy'n gallu cymryd llawer o amser, ac maent yn anodd eu rheoli.

“O hyn ymlaen, gall y coleg argraffu cynnyrch graddfa fawr mewn un darn. Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn ysbrydoli ac yn annog mwy o staff a myfyrwyr i weithgynhyrchu ychwanegion a bydd yn gyffrous iawn gweld sut y bydd ein prif raglenni yn dechrau trafod yr hyn a gaiff ei argraffu gyntaf. Mae metr ciwbig o botensial yn aros!”

Y rhodd hael hon yw’r garreg filltir ddiweddaraf yn y berthynas gynyddol rhwng Coleg Menai ac Autodesk.

Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, cliciwch yma.

Yn ddiweddar gwahoddwyd Iwan a’i gyd-ddarlithydd peirianneg Bryn Jones i siarad yng Nghynhadledd Prifysgol Autodesk 2023, mewn sesiwn o’r enw ‘Ail-ddychmygu Addysg ar gyfer Gweithlu’r Dyfodol’.

Mewn neuadd oedd dan ei sang yng ngwesty moethus Fenisaidd yn Las Vegas, rhannodd Iwan a Bryn lwyfan gydag addysgwyr o Chicago, Washington a Birmingham, yn ogystal â pheiriannydd dylunio o dîm Fformiwla Un Mercedes.

Buont yn siarad ag addysgwyr eraill am sut y gellid defnyddio meddalwedd Fusion 360 Autodesk i ddysgu sgiliau peirianneg blaengar i fyfyrwyr, a'u paratoi ar gyfer marchnad swyddi uwch-dechnoleg y dyfodol.

Dyma’r eildro i Iwan a Bryn gael eu gwahodd i’r gynhadledd flynyddol, ar ôl i Autodesk gael eu plesio gan eu defnydd o Fusion 360.

Dywedodd Iwan: “Mae’n blatfform gwych i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer diwydiant aml sgiliau, lle'n aml mae angen gallu dylunio a gweithgynhyrchu i safon uchel. Dyna pam rydyn ni'n defnyddio Fusion 360 wrth baratoi ar gyfer cystadlaethau Sgiliau Cymru a WorldSkills.

“Mae’n feddalwedd hawdd ei defnyddio ac rydw i a Bryn wedi bod yn archwilio gymaint ag y gallwn ni ar ei bosibiliadau, yn enwedig dylunio cynhyrchiol – proses ddylunio ailadroddol sy'n rhoi llwythi a chyfyngiadau i'r feddalwedd i gynhyrchu strwythurau addas ac unigryw na allem fod wedi meddwl am eu dylunio o'r blaen.

“Hyd at lefel gradd, rydyn ni'n ceisio manteisio ar bopeth sydd gan y feddalwedd i’w gynnig, gan gynnwys dadansoddi straen, profi pwysau, gweithgynhyrchu CNC uwch a thechnegau archwilio. Mae gan bob un o’r rhain fanteision enfawr i’r staff a’r myfyrwyr wrth iddynt ddefnyddio’r feddalwedd cwmwl hon sydd â chredydau diderfyn ar gyfer addysg.”

Yn ddiweddar mae Iwan a Bryn hefyd wedi cael eu recriwtio gan WorldSkillsUK fel rheolwyr hyfforddi ar gyfer y categori gweithgynhyrchu ychwanegion.

Eu rôl yw sgowtio’r myfyrwyr gorau o bob rhan o’r DU yn seiliedig ar eu perfformiadau mewn cystadlaethau sgiliau, a’u hyfforddi ar gyfer rownd derfynol ryngwladol WorldSkills yn Lyon y flwyddyn nesaf, a’r rhan fydd yn dilyn yn Shanghai yn 2026.

Cafodd adran beirianneg Coleg Menai gryn lwyddiant yn defnyddio Autodesk Fusion 360 yn rowndiau terfynol WorldSkillsUK fis diwethaf ym Manceinion. Enillodd y prentis peirianneg Osian Roberts fedal aur yn y gystadleuaeth Turnio CNC, tra enillodd y darlithydd a chyn-fyfyriwr Eva Voma efydd mewn gweithgynhyrchu ychwanegion.