Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ffilmiau'r myfyrwyr i'w gweld yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn y sinema

Cafodd Carreg Gron a The Hunger Pang Gang eu creu gan ddysgwyr yng Ngholeg Menai fel rhan o gynllun hyfforddi It’s My Shout, ac mae'r ffilmiau bellach ar gael i'w gwylio ar y BBC ac ar S4C

Cafodd myfyrwyr Coleg Menai weld eu ffilmiau ar y sgrin arian yn première It’s My Shout ym Mangor.

Cafodd y ffilmiau, Carreg Gron a The Hunger Pang Gang, eu dangos ar y teledu hefyd, ac maent ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer ac S4C Clic.

⁠Cafodd y ddau ddarn eu creu'r haf hwn fel rhan o It’s My Shout - cynllun hyfforddi i bobl yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cael profiad o'r diwydiant ffilmiau.⁠

Myfyrwyr cyrsiau Celfyddydau Perfformio'r coleg yw cast y ddwy ffilm - tra bod dysgwyr eraill wedi bod yn rhan o ddylunio'r set, y gwaith sain a'r gwaith camera, a'r trin gwallt a'r coluro.

⁠Yr wythnos diwethaf ymunodd y myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn sinema Pontio, ar gyfer dangosiad arbennig o’r wyth ffilm It’s My Shout a grëwyd ledled Cymru eleni.

Mae Rhys Lloyd-Williams, sy'n astudio Diploma Proffesiynol Theatr Gerdd Lefel 4 mewn Perfformio, yn chwarae rhan Alex, un o brif gymeriadau ⁠The Hunger Pang Gang.

Dywedodd ar ôl y perfformiad cyntaf: “Roedd yn brofiad anhygoel ac fe ddaeth ag atgofion gwych yn ôl. Dwi wrth fy modd yn mynd i'r sinema ac roedd yn swreal gweld fy hun ar y sgrin fawr!

“Mae’r ffilm hon wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder, a doeddwn i ddim wedi disgwyl hynny. Cyn gynted ag y dechreuon ni ffilmio roeddwn i'n teimlo'n gartrefol.

“⁠Mae It’s My Shout yn gyfle anhygoel i actorion ifanc fynd allan a gwneud enw iddyn nhw eu hunain. Dyma brofiad gorau fy mywyd.”

Ychwanegodd Rhys: “Dod i Goleg Menai yw’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Rydw i wedi dysgu cymaint o bethau newydd, wedi cael cymaint o brofiadau a chyfleoedd, wedi dysgu gwella fy hun a hefyd wedi gwneud cymaint o ffrindiau da.”

Deborah Parry, sydd hefyd yn astudio Diploma Proffesiynol Theatr Gerdd Lefel 4 mewn Perfformio, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad, Sian, yn ⁠Carreg Gron, wedi iddi ymddangos yn flaenorol mewn ffilm It's My Shout arall yn 2021. ⁠⁠

Meddai: “⁠Rhoddodd It’s My Shout y cyfle i mi gyflawni breuddwyd fy mhlentyndod, sef dod yn actores.

“Fy ffilm gyntaf oedd Dalen, a gyfarwyddwyd gan Richard Harrington, a ffilm eleni Carreg Gron a gyfarwyddwyd gan Sara Lloyd.

“Roedd gweld hwn ar y sgrin yn foment emosiynol. Cyfarwyddodd Sara'r ffilm hon yn berffaith a gallwn i ddim bod yn hapusach gyda'r canlyniad.

“Diolch i chi ⁠It's My Shout a'r athrawon yn adran Celfyddydau Perfformio Coleg Menai am ddysgu i mi sut i fod yn actores dda. Diolch i chi gyd am eich help.”

Cafodd The Hunger Pang Gang ei chyfarwyddo gan yr actor, cyflwynydd teledu a chyn-fyfyriwr Coleg Menai Ceri Bostock, a oedd yn y première ym Mangor.

Diddordeb mewn dysgu mwy am y diwydiannau creadigol gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yn y Celfyddydau Perfformio, Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Teledu a Ffilm, a mwy.

Meddai Ceri: “Roedd mor hyfryd gweld y cast eto ac yn braf eu gweld yn teimlo mor falch eu bod yn y ffilm. Mae’n teimlo’n swreal bod ein ffilm ni wedi bod ar y sgrin fawr ac ar y BBC.

“Mi ges i fy syfrdanu gan safon y ffilmiau. Roedden nhw'n wych ac roedden nhw i gyd yn wahanol.

“Dw i’n hapus gyda’r cast wnes i ddewis – roedden nhw’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ac roedd yr egni rhyngddynt yn wych, a gallwch weld hynny ar y sgrin. Rwy’n hapus iawn drostyn nhw y bydd ganddyn nhw luniau o hyn i’w rhoi ar eu tâp arddangos.”

Cyfarwyddwr theatr ac actor o Borthaethwy yw Sara, cyfarwyddwr Carreg Gron, ac mae hi wedi ymddangos yn Hinterland, Hearts of Gold a Bad Girls.

Meddai: "Roedd y myfyrwyr yn ardderchog. O ystyried pa mor ifanc ydyn nhw, roedd yr ymrwymiad wnaethon nhw ei ddangos a'u parodrwydd i weithio'n galed yn hollol wych.

"Mi wnaeth y myfyrwyr dylunio a'r holl griw gryn argraff arna i, yn enwedig pa mor barod oedden nhw i wneud rhywbeth hollol newydd.

"Roedd yr actorion yn ardderchog - dim ond pum actor oedd gen i i ddewis ohonyn nhw ar gyfer pum rhan, ac roedden nhw i gyd yn arbennig o dda."

Trefnwyd première Pontio ar y cyd gan adran Celfyddydau Creadigol Coleg Menai a ⁠It's My Shout.

Cafwyd areithiau gan brifathro'r coleg Aled Jones-Griffith, rheolwr gyfarwyddwr It's My Shout Roger Burnell, Alaw Roberts o Rondo Media ac Iddon Jones o stiwdios ffilm Aria. ⁠

Meddai Aled Jones-Griffith: “Fel coleg, rydyn ni’n hynod falch o’r berthynas sydd gennym ni gydag It's My Shout. ⁠ Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gallu cynnig profiadau i dros 600 o ddysgwyr.

“Mae’r profiadau hyn wedi bod yn rhan allweddol o’u haddysg, ac yn fodd ardderchog o ddarparu cyfleoedd ar lefel broffesiynol wrth iddynt ddilyn llwybrau gyrfa yn eu dewis faes.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio, wrth i ni feithrin a darganfod talent newydd ar gyfer y diwydiannau creadigol yma yng ngogledd Cymru.”

Mae Coleg Menai wedi gweithio gydag It's My Shout ers pymtheg mlynedd, gyda myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Celfyddydau Perfformio, Teledu a Ffilm, a Chelf a Dylunio yn creu un ffilm yn Gymraeg ac un yn Saesneg bob blwyddyn.

Mae’r holl ffilmiau’n cael eu dangos ar y BBC ac S4C, ac mae sawl un wedi’u henwebu ar gyfer gwobrau, gan gynnwys yn yr Ŵyl Ffilmiau Celtaidd.

Mae dysgwyr yn cael cydnabyddiaeth ddarlledu amhrisiadwy, profiad yn y diwydiant a chyfleoedd i rwydweithio. Cânt eu mentora gan weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd wedi gweithio ar sioeau fel Doctor Who, Casualty, Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ym myd ffilm a theledu, gan weithio ar ffilmiau fel Dolittle, Watchmen a Dan y Mellt; sioeau gan gynnwys Doctor Who a Gogglebocs Cymru; ac i gwmnïau cynhyrchu fel Rondo a Cwmni Da.

Mae The Hunger Pang Gang ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer⁠. ⁠Mae Carreg Gron i'w weld ar S4C Clic a BBC iPlayer.

I gael rhagor o wybodaeth am It's My Shout, ewch i'r wefan.