Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Iwan a Bryn yn teithio i Las Vegas i rannu eu gwybodaeth am ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD)

Cafodd y ddau ddarlithydd peirianneg o Goleg Menai eu gwahodd i siarad am eu defnydd blaengar o dechnoleg dylunio a gweithgynhyrchu yng Nghynhadledd Prifysgol Autodesk 2023

Mewn cynhadledd yn Las Vegas, rhannodd dau ddarlithydd peirianneg o Goleg Menai eu gwybodaeth am dechnoleg flaengar dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD).

Gwahoddwyd Iwan Roberts a Bryn Jones i siarad yng Nghynhadledd Prifysgol Autodesk 2023, oedd yn cynnwys dros 10,000 o bobl o bob rhan o’r byd.

Mae Autodesk yn gwmni sy'n arwain y byd ym maes creu meddalwedd ar gyfer effeithiau ffilm arbennig, gweithgynhyrchu a dylunio, ac adeiladu.

Ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, mae Iwan a Bryn yn defnyddio meddalwedd Fusion 360 y cwmni i hyfforddi myfyrwyr i ddylunio a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur.

Maent hefyd wedi ei ddefnyddio i hyfforddi myfyrwyr ar gyfer cystadlaethau – gan arwain at lwyddiant ysgubol yn rowndiau terfynol WorldSkills UK y mis hwn, gydag Osian Roberts yn cipio medal aur yn y gystadleuaeth Turnio CNC, ac Eva Voma yn cael medal efydd am Weithgynhyrchu Haen-ar-haen

Gwnaeth defnydd y coleg o'r platfform gymaint o argraff ar y cwmni nes iddynt ofyn i Iwan a Bryn ddod i roi darlith yn eu cynhadledd flynyddol.

Cyflwynodd y darlithwyr peirianneg eu hargraffiadau o Fusion 360 mewn sesiwn ar ‘Ailddychmygu Addysg ar gyfer Gweithlu'r Dyfodol’.

Meddai Bryn: “Roedd yn brofiad anhygoel. Roedden ni wedi paratoi gweminar ar gyfer Autodesk, a gofynnwyd i ni gyflwyno’r weminar honno ar y llwyfan o flaen cannoedd o addysgwyr o bob rhan o’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.

“Mi siaradon ni am ddefnyddio meddalwedd Autodesk i gynllunio prosiect, sut i ymgorffori deallusrwydd artiffisial mewn addysg, a hefyd sut y gallwn ni hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant – yn enwedig drwy gael merched i ymddiddori mewn peirianneg.”

Dyma’r eildro i Iwan a Bryn ymweld â’r gynhadledd, ar ôl cael eu noddi gan Autodesk i fynd i New Orleans y llynedd i gael datblygiad proffesiynol parhaus yn y diwydiant dylunio a gweithgynhyrchu.

Felly'r tro hwn roedden nhw mewn sefyllfa dda i ddychwelyd i gynhadledd Autodesk fel siaradwyr arbenigol.

Yn Vegas, roedden nhw'n rhannu'r llwyfan gyda Carla Herrero, peiriannydd dylunio i dîm Formula One Mercedes, Matt Erbach, athro gweithgynhyrchu a pheirianneg o Chicago, Nate Baker, darlithydd o Washington, Andrew Hewitt, pennaeth dylunio a thechnoleg yn yr Aston University Engineering Academy, a Natalie Staines, uwch gyfarwyddwr marchnata addysg cwmni Autodesk.

Dyma oedd gan Iwan i'w ddweud am Fusion 360: “Mae’n blatfform gwych i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer diwydiant aml sgiliau, lle'n aml mae angen gallu dylunio a gweithgynhyrchu i safon uchel. Dyna pam rydyn ni'n defnyddio Fusion 360 wrth baratoi ar gyfer cystadlaethau Sgiliau Cymru a WorldSkills.

“Mae’n feddalwedd hawdd ei defnyddio ac rydw i a Bryn wedi bod yn archwilio gymaint ag y gallwn ni ar ei phosibiliadau, yn enwedig dylunio cynhyrchiol – proses ddylunio ailadroddol sy'n rhoi llwythi a chyfyngiadau i'r feddalwedd i gynhyrchu strwythurau addas ac unigryw na allem fod wedi meddwl am eu dylunio o'r blaen.

“Hyd at lefel gradd, rydyn ni’n ceisio manteisio ar bopeth sydd gan y feddalwedd i’w gynnig, gan gynnwys dadansoddi straen, profi pwysau, gweithgynhyrchu CNC uwch a thechnegau archwilio. Mae gan bob un o’r rhain fanteision enfawr i’r staff a’r myfyrwyr wrth iddynt ddefnyddio’r feddalwedd hon yn y cwmwl sydd â chredydau diderfyn ar gyfer addysg.”

Yn ogystal â chyflwyno eu sesiwn eu hunain, yn ystod eu tri diwrnod llawn yn Vegas cafodd Iwan a Bryn gyfle i wrando ar ddarlithoedd eraill, ac i rwydweithio â chynadleddwyr o bedwar ban byd.

“Roedd rhai o’r darlithoedd yn atgyfnerthu’r hyn roedden ni eisoes yn ei wneud gyda’r feddalwedd,” meddai Bryn. “Felly roedd bod yno'n fwy ynghylch magu hyder na dysgu.

“Roedden ni’n rhwydweithio gyda phobl o brifysgolion fel King’s College London a Loughborough,” meddai Bryn. “Oherwydd ein bod ni wedi bod o’r blaen ac yn gwybod llawer am y feddalwedd, roedden ni’n cael llawer o gwestiynau – felly roedd gennych chi addysgwyr o ddinasoedd mawr fel Chicago, Efrog Newydd a Vegas yn cael cyngor gan ddau hogyn o Ynys Môn!”

Roedd Iwan a Bryn hefyd yn bresennol mewn sgwrs gan Ryan Reynolds, seren Deadpool a chydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Roedd hynny’n ysbrydoliaeth,” meddai Bryn. “Rydych chi'n meddwl amdano fel seren enfawr, ond wrth ei glywed yn siarad rydych chi'n sylweddoli ei fod o hefyd yn ddyn busnes craff iawn.”

Bellach mae Iwan a Bryn wedi dod adref o Vegas, ond dim ond dechrau mae perthynas Coleg Menai gyda Autodesk a roddodd argraffydd 3D arbennig iawn i'r coleg yn ddiweddar.

Bellach mae gan y peiriant enfawr, a gafodd ei adeiladu ar y cyd â Phrifysgol Warwick, le blaenllaw yn yr adran beirianneg yn Llangefni.

Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm â pheirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau cyffrous yma.