Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Molly yn cael lle yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Llwyddodd Molly sy'n chwarae aml i offeryn i ennill rhagoriaeth mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo ac mae bellach ar fin astudio gradd Meistr

Mae cyn-fyfyrwraig Coleg Llandrillo, Molly Stubbs-Davies, yn dathlu ar ôl cael ei derbyn i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bydd Molly, o Ddeganwy, yn astudio gradd Meistr mewn Perfformio Cerddoriaeth yn y conservatoire yng Nghaerdydd, sy’n denu rhai o’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd.

Ar hyn o bryd ym mlwyddyn olaf ei gradd ym Mhrifysgol Caerdydd, astudiodd Molly gwrs Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo ar Gampws Llandrillo-yn-Rhos, gan ennill rhagoriaeth pan orffennodd yn 2021.

Cynigiwyd lle iddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, ond mae wedi derbyn y cynnig gan Goleg Brenhinol Cymru.

“Dw i mor falch,” meddai Molly, sy’n canu’r trwmped, y cornet a'r flugelhorn. “Doeddwn i wir ddim yn meddwl fy mod i'n mynd i lwyddo yn fy ngheisiadau er nad oeddwn i'n meddwl bod unrhyw reswm i beidio.

“Fuaswn i ddim wedi cymryd y cam hwn heb y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan staff tra roeddwn yn y coleg, a Martin McHale, fy athro trwmped presennol, felly rwy’n hynod ddiolchgar iddynt a gobeithio y byddaf yn eu gwneud nhw'n falch.”

Mae Molly wedi chwarae gyda Cherddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd drwy gydol ei gradd, gan berfformio mewn lleoliadau fel Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae hi bellach yn brif drwmpedydd gyda'r gerddorfa.

Mae hi hefyd wedi chwarae gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Caerdydd, ac fel prif gornet ac unawdydd flugelhorn gyda Band Pres Prifysgol Caerdydd.

Ychwanegodd Molly: “Rwyf wedi bod yn brif drwmped a chornet Band Chwyth Symffonig Prifysgol Caerdydd ym mhob un o’r tair blynedd o’m cwrs gradd. Mae hwn yn ensemble rwyf wedi’i fwynhau’n fawr gan ein bod wedi gallu perfformio perfformiadau cyntaf y byd o ddarnau. Y llynedd buom yn chwarae yn yr Ŵyl Bandiau Cyngerdd Cenedlaethol a chawsom wobr aur ar lefel genedlaethol.”

Dywedodd fod ei chyfnod yn y coleg wedi ei helpu i ddatblygu sgiliau amhrisiadwy, yn ogystal â rhoi hwb enfawr i’w hyder.

“Roedd fy amser yn y coleg yn hynod werthfawr i mi yn academaidd ond hefyd yn bersonol,” ychwanegodd Molly. “Fe wnes i gwblhau fy nghyrsiau TGAU mewn canolfan addysg amgen, ac erbyn i mi gyrraedd y coleg roedd fy hyder yn fy ngallu fy hun wedi cael cnoc.

“Mi helpodd y coleg fi i ailadeiladu fy hunanhyder a fy hunanwerth yn ogystal â gwella fy annibyniaeth.

“Ar wahân i hyn, roedd y cwrs ei hun yn wych. Gyda fy niddordebau yn gadarn mewn cerddoriaeth offerynnol glasurol a thraddodiadol, roeddwn yn ansicr a fyddai’r cwrs yn iawn i mi, ond rwyf mor falch fy mod wedi ei wneud.

“Fe wnes i fwynhau dysgu am gynhyrchu cerddoriaeth ac ochr dechnoleg pethau yn fawr, ac rydw i'n ddiolchgar fod gen i set sgiliau sy'n weddol unigryw i fy maes penodol o gerddoriaeth.

“Roedd yn bosibl addasu tipyn ar y cwrs hefyd. Roeddwn i’n gallu dilyn fy niddordebau fy hun tra ar y cwrs ac fe gafwyd trafodaethau diddorol iawn gyda’m cyfoedion gan fod ein diddordebau a’n canlyniadau dysgu yn aml mor wahanol.”

Dywedodd Molly mai ei hoff atgof o'r coleg oedd gweithio ar albwm ei grŵp blwyddyn, Unmute, a aeth ar siart iTunes. Fel pennaeth y tîm marchnata, Molly ddyluniodd a chreu clawr yr albwm. Cynhaliodd gyfweliadau â’r artistiaid, a rheolodd negeseuon y cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn rhyddhau’r albwm.

Meddai: “Mae cymaint o atgofion o’r coleg dwi’n eu trysori. Mwynheais yn arbennig y prosiectau ar sain ffilm, ac ar gerddoriaeth brotest, a fy mhrosiect mawr olaf gan fy mod wedi gallu dilyn fy nhrywydd fy hun yn llwyr.

“Ond fy hoff atgof yn bendant oedd rhoi ein halbwm, Unmute, at ei gilydd yn yr ail flwyddyn. ⁠ Yn anffodus treuliwyd llawer o fy ail flwyddyn dan glo oherwydd y pandemig, ond roeddwn i wrth fy modd â'r ffordd y daeth y dosbarth at ei gilydd i greu cynnyrch da iawn.

“Yn bendant fe wnaeth ein holl waith caled dalu ar ei ganfed wrth i ni lwyddo i gyrraedd siart iTunes sawl gwaith, a hyd yn oed daro rhif 1 ar ychydig o siartiau – sy’n gamp rydw i’n dal i roi ar fy CV.”

Wrth ofyn am ei chyngor i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i astudio Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Llandrillo, dywedodd Molly: “Os oes gennych chi ddiddordeb ewch amdani.

“Waeth pa gerddoriaeth sydd o ddiddordeb i chi, p'un a ydych chi'n fwy o berfformiwr, cyfansoddwr neu gynhyrchydd, rydw i wir yn meddwl y gallwch chi gael llawer o wybodaeth werthfawr o'r cwrs hwn.

“Bydd eich profiad yn amrywiol ac yn eich gwthio tu hwnt i'ch ffiniau, ond bydd yn arwain at ganlyniadau cyffrous. Gallwch deilwra’r cwrs i’ch diddordebau a’ch nodau eich hun, a byddwch yn dod allan o’r cwrs ar ôl cael profiad gwirioneddol unigryw a chymhwyster a fydd yn mynd â chi ble bynnag y dymunwch.”

Meddai James Taylor, Arweinydd Rhaglen Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo: “Roeddem yn falch iawn o gyflawniadau Molly yma cyn iddi symud ymlaen i brifysgol.

“Roedd hi bob amser yn cwblhau gwaith i safon llawer uwch na’r cymhwyster roedd hi’n mynd i’w astudio, ac roedden ni bob amser yn gwybod y byddai’n mynd yn bell. A hithau’n gerddor sydd wedi’i hyfforddi’n glasurol, nid yw dilyniant Molly i CBCDC yn syndod i ni.”

Diddordeb mewn astudio Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.