Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y broses ymgeisio wedi agor ar gyfer WorldSkills UK 2024

Myfyrwyr a phrentisiaid yn cael y cyfle i ddilyn yn ôl traed Yuliia Batrak ac Osian Roberts, enillwyr medalau aur o Grŵp Llandrillo Menai yng nghystadleuaeth WorldSkills UK

Mae myfyrwyr a phrentisiaid yn cael eu gwahodd i gofrestru ar gyfer cystadlaethau WorldSkills UK eleni.

Y llynedd, enillodd myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai, Yuliia Batrak ac Osian Roberts, fedalau aur yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK.

Buont yn fuddugol yn eu meysydd yn erbyn y talentau ifanc gorau o bob cwr o’r wlad, gyda Yuliia yn fuddugol yn y categori Gwasanaethau Bwyty ac Osian yn fuddugol yn y categori Turnio CNC.

Daeth llwyddiant i ran Eva Voma ac Adam Hopley hefyd wrth iddynt ennill medalau efydd mewn Gweithgynhyrchu Ychwanegion ac Electroneg Ddiwydiannol.

Yn awr, mae dysgwyr yn cael y cyfle i ddilyn eu hesiampl trwy gymryd rhan yn y cystadlaethau sy’n cael eu cynnal eleni mewn bron i 60 o gategorïau.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK yn gallu bod yn brofiad sy’n newid bywyd ac sy’n datblygu sgiliau hanfodol a hybu enillion yn y dyfodol.

“Mae ein cystadlaethau yn datblygu sgiliau personol pobl ifanc, yn ogystal â datblygu’r sgiliau technegol y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt mewn recriwtiaid newydd. Byddwn yn annog pawb i edrych ar y llu o opsiynau sydd ar gael a chofrestru i gystadlu.”

Mae’r cystadlu’n broses saith mis sy’n cynnwys rhagbrofion rhanbarthol a hyfforddiant dwys cyn cynnal y profion terfynol ym mis Tachwedd mewn lleoliadau ar draws ardal Manceinion. Bydd pobl ifanc o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd yn y rowndiau terfynol, cyn cyhoeddi’r enillwyr mewn seremoni cyflwyno medalau.

Dywedodd y mwyafrif helaeth o'r ymgeiswyr blaenorol fod cymryd rhan wedi gwella eu gwybodaeth dechnegol (87%) a’u sgiliau personol a chyflogadwyedd (79%).

Mae'n bosibl y bydd y myfyrwyr a’r prentisiaid sy'n rhagori yn y rowndiau terfynol cenedlaethol yn cael gwahoddiad i ymuno â rhaglen ddatblygu a hyfforddi ryngwladol WorldSkills UK. Gallai hyn olygu cael eu dewis i fod yn rhan o dîm y Deyrnas Unedig a chystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn WorldSkills, sef 'Gemau Olympaidd y Byd Sgiliau'.

Yn dilyn cystadlaethau WorldSkills UK y llynedd, mae Eva a Yuliia wedi’u dewis ar gyfer carfanau’r DU yn eu categorïau nhw. Mae gan Eva gyfle i gynrychioli’r DU mewn Gweithgynhyrchu Ychwanegion yng nghystadleuaeth WorldSkills 2024 yn Lyon ym mis Medi, tra bod Yuliia yn y garfan Gwasanaethau Bwyty sy’n paratoi ar gyfer WorldSkills 2026 yn Shanghai.

  • Siaradwch â'ch tiwtor cyn 28 Mawrth 2024 os hoffech gynrychioli Coleg Llandrillo, Coleg Menai neu Goleg Meirion-Dwyfor yng nghystadlaethau WorldSkills eleni. Efallai eich bod wedi cystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 ac yn dymuno parhau â’ch taith. Mae disgwyl i ganlyniadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gael eu cyhoeddi ar 14 Mawrth.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cofrestru i gynrychioli eich coleg, e-bostiwch competitions@gllm.ac.uk neu cystadlaethau@gllm.ac.uk
  • I gael rhagor o wybodaeth am gystadlaethau WorldSkills UK eleni, ewch i www.worldskillsuk.org/skills/national-competitions