Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dylan a Greg yn cael eu galw i chwarae rygbi i Gymru

Bydd Dylan Alford yn chwarae i dîm dan 18 Cymru yn erbyn yr Alban tra bod ei gyd-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, Greg Thomas, hefyd yn cael cyfle i wneud argraff cyn Gŵyl y Chwe Gwlad

Mae dau o fyfyrwyr academi rygbi Coleg Llandrillo wedi cael eu galw ar gyfer dwy gêm gan dîm dan 18 Cymru yn erbyn yr Alban y penwythnos hwn.

Bydd Dylan Alford yn dechrau yn y gêm gyfeillgar ddydd Sul yn Ystrad Mynach, gan gynrychioli Cymru am y tro cyntaf mewn gêm â chap rhyngwladol (Dechrau am 2.30pm).

Mae Greg Thomas wedi’i enwi fel eilydd yn nhîm Datblygu dan 18 Cymru, a fydd hefyd yn chwarae eu cymheiriaid Albanaidd mewn ymgyrch fydd yn dechrau am 12.30pm.

Mae'r ddau yn chwarae i RGC, ac yn astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 ⁠ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Fe fyddan nhw’n gobeithio creu argraff ar y dewiswyr cyn Gŵyl y Chwe Gwlad dan 18, lle bydd Cymru’n herio Lloegr, Portiwgal a Ffrainc rhwng Mawrth 30 ac Ebrill 7.

Dywedodd Dylan, sy'n chwarae yn yr ail reng, ac sydd hefyd wedi cofrestru gyda Chlwb Rygbi Bethesda, fod bod yn rhan o Academi Llandrillo wedi helpu i godi ei broffil fel chwaraewr rygbi.

“Mae bod yn rhan o academi Rygbi yn help aruthrol o ran denu sylw tîm Cymru,” meddai. “Pe bawn i’n mynd i’r ysgol leol byddwn i’n chwarae rygbi clwb, ond yn chwarae i goleg rwy’n cystadlu ar y lefel uchaf yng Nghymru, yn chwarae yn erbyn y timau gorau o gwmpas.”

Meddai Andrew Williams, Cydlynydd Academi Rygbi Coleg Llandrillo: “Mae’n destament i waith caled ac ymroddiad Dylan a’i deulu ei fod wedi cael y cyfle hwn i ennill ei gap cyntaf i Gymru.

“Rydym fel coleg yn falch o allu ei gefnogi i gyflawni ei ddyheadau rhyngwladol. Gobeithio i Dylan mai dyma ddechrau'r hyn a allai fod yn yrfa addawol mewn rygbi proffesiynol.

“Yr hyn sy’n wirioneddol gadarnhaol am Dylan fel unigolyn yw’r sylw y mae’n ei roi i’w waith coleg hefyd. Mae o ar ei ffordd i ennill proffil rhagoriaeth seren yn ei gwrs, felly mae nid yn unig yn llwyddo ar y cae rygbi, mae hefyd yn ffynnu yn academaidd.”

Mae Greg, sy'n brop pen rhydd, ac sydd hefyd yn chwarae i Glwb Rygbi Wrecsam, yn aros gyda theulu lletya tra bydd yn cwblhau ei astudiaethau.

Dywedodd Andrew: “Mae’n wych i Greg gael ei gynnwys yn y tîm datblygu. Mae'n gyfle gwych iddo arddangos ei allu. Wrth edrych ymlaen mae 'na gêm yn erbyn Iwerddon yr wythnos wedyn, ac yn amlwg gemau'r Chwe Gwlad yn digwydd adeg y Pasg.

“Mae Greg yn aros mewn llety teuluol felly mae'n gwneud defnydd o'r cyfleuster hwnnw sydd gennym fel coleg, ac unwaith eto mae ei ddatblygiad o safbwynt rygbi wedi bod yn wych eleni. Gobeithio y bydd yn mynd ymlaen i bethau gwell gan anelu'n uwch.

“Fel coleg rydyn ni’n edrych ymlaen at weld perfformiad da ddydd Sul.”

Dywedodd prif hyfforddwr tîm dan 18 Cymru, Richie Pugh: “Yr hyn sy’n wych yw bod gennym ni gyfle, trwy'r gêm ddatblygu a’n gêm wedi’i chapio, i weld 46 o chwaraewyr yn cynrychioli Cymru yn yr hyn sydd i lawer ohonyn nhw eu cyfle cyntaf yng nghrys coch Cymru.

“Rydyn ni wedi siarad am ddilyniant o’r gynghrair Ysgolion a Cholegau a thrwy’r rhanbarthau, a nawr mae ganddynt gyfle i roi eu hunain i fyny yn erbyn rhai o’r cenhedloedd gorau, a’r Alban yw’r her wrth i ni adeiladu tuag at Ŵyl y Chwe Gwlad yn Parma.”

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau. I gael rhagor o wybodaeth am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma.