Peirianwyr Morol yn Hwylio o Gwmpas Arfordir yr Alban
Yn ddiweddar, hwyliodd myfyrwyr Peirianneg Forol o Goleg Llandrillo o amgylch arfordir syfrdanol yr Alban, fel rhan o daith mewn partneriaeth ag ‘Ocean Youth Trust Scotland’.
Yn dilyn sesiwn gynefino a briffio diogelwch, cychwynnodd y 24 o fyfyrwyr a’u darlithwyr o'r coleg ar eu taith hwylio tri diwrnod o hyd, ynghyd â sgiperiaid a staff y llongau.
Gan lywio dau gwch; cwch hwylio 'BT Challenge Racing Yacht Venturer' 72 troedfedd a llongan hyfforddi pwrpasol 'Oyster' 70 troedfedd, gwnaethant hwylio i lawr afon Clyde ac ymweld â'r Largs, ynys Arran, tref hardd Tarbet, a hwylio i fyny'r Kyles Bute cul i Holylock.
Rhannwyd y myfyrwyr a'u darlithwyr yn ddwy 'wylfa' gylchredol, lle'r oedd hanner y criw yn gweithredu'r hwyliau ac yn mordwyo, tra bod yr hanner arall yn coginio prydau bwyd neu'n mwynhau'r daith.
Cafodd y dysgwyr gyfle i roi cynnig ar fordwyo, llywio a thrin yr hwyliau a'r winshis gyda chefnogaeth gan sgiperiaid y llongau.
Dywedodd Andy White, darlithydd Peirianneg Forol:
“Roedd y daith hon yn brofiad ardderchog i’n dysgwyr ddysgu sgiliau newydd a gwneud atgofion gwych, a chyflwynwyd tystysgrifau ‘Criw Cymwys RYA’ iddynt hefyd yn dilyn eu hamser ar y llongau”.
“Rwy’n hynod falch o’r dysgwyr, a greodd gymaint o argraff ar y staff gyda’u hagwedd broffesiynol a’r wybodaeth a enillwyd ar ein cwrs yng Ngholeg Llandrillo - cynigwyd lleoliadau a chyfleoedd eraill gyda’r sefydliad i sawl un ohonynt!”
“Hoffem ddiolch i Ocean Youth Trust Scotland, ac edrychwn ymlaen at ymweld â nhw eto yn fuan iawn!”
Mae Ocean Youth Trust Scotland yn elusen gwaith ieuenctid sydd ymhlith y mwyaf blaenllaw yn y byd, sy’n darparu rhaglen flynyddol o deithiau ar fwrdd fflyd o longau hyfforddi hwylio.
I gael gwybod rhagor am Ocean Youth Trust Scotland, cliciwch yma.
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Technoleg Forol, i gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.