Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Ennill eu Lle yn Rownd Derfynol Cogydd Bwyd Môr Gorau Prydain

Mae dau gogydd addawol o Goleg Llandrillo wedi ennill eu lle yn rownd derfynol un o gystadlaethau coginio mwyaf y Deyrnas Unedig.

Curodd y myfyrwyr Celfyddydau Coginio, Jay Rees, sy'n dod o Gaer, a Pippa Taylor, sy'n dod o Fodelwyddan, dimau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn y rownd gyn derfynol ar gyfer y Gorllewin. Drwy hynny llwyddasant i sicrhau lle yn rownd derfynol cystadleuaeth Cogydd Bwyd Môr Prydain 2023 a gynhelir yr haf hwn.

Rŵan, bydd y ddwy o Goleg Llandrillo yn cystadlu yn y rownd derfynol yn y Grimsby Institute yn Swydd Lincoln ddydd Gwener, 9 Mehefin lle byddant yn creu bwydlen tri chwrs a fydd yn cynnwys prawf arloesi. Bydd y prawf yn herio'r rhai yn y rownd derfynol gyda bwydlen annisgwyl sy'n gofyn iddynt gynhyrchu rhyng-gwrs gan ddefnyddio rhestr benodol o gynhwysion.

⁠Enillodd Jay a Pippa eu lle yn y rownd derfynol drwy baratoi bwydlen tri chwrs a oedd yn cynnwys hadog coch, langwstinau a draenogyn môr, gyda'r holl fwyd môr yn dod o ffynonellau cynaliadwy.

Dywedodd Pippa,

"Rydym yn falch iawn o fod wedi ei gwneud hi drwodd i'r rownd derfynol - bu ein darlithwyr coleg yn gefn mawr i ni ac rydym wir yn ddiolchgar iddynt am ein helpu i gael canlyniadau mor wych!"

"Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i "Fresh and Tasty Microgreens" a gyflenwodd yr holl lysiau micro gwyrdd ar gyfer ein seigiau".

Dywedodd Michael Evans, darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo,

"Da iawn i Jay a Pippa am lwyddo cystal - mi wnaethon nhw berfformio'n wych fel tîm ar y diwrnod. Rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer y rownd derfynol".

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo, cliciwch yma. ⁠