Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwaith celf Mali a Cadi yn cael ei arddangos yn Llundain

Ar ôl cwblhau eu cyrsiau yng Ngholeg Menai'r haf hwn, mae darnau gan y ddwy wedi'u dewis ar gyfer arddangosfeydd anrhydeddus

Mae gwaith Mali Smith a Cadi Richardson wedi cael ei ddewis i'w arddangos yn Llundain ychydig ar ôl iddyn nhw gwblhau eu cyrsiau Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai.

Mae darn 3D trawiadol Mali a wnaed o fetel, ‘Warming Waters’, wedi’i ddewis ar gyfer arddangosfa fawreddog UAL, Origins Creative, yn Orielau'r Mall ar y 16-19 Gorffennaf.

Mae ‘Warming Waters’ yn tynnu sylw at effeithiau newid hinsawdd ar fywyd o dan y môr, a llwyddodd i ddenu sylw curadur UAL, Calum Hall, o blith mwy na 600 o ddarnau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Bydd yn cael ei arddangos tan ddydd Sadwrn yn Origins Creative, arddangosfa flynyddol a gynhelir gan UAL, y corff dyfarnu ar gyfer y cwrs Celf a Dylunio Lefel 3 a gwblhaodd Mali yn ddiweddar ar gampws Parc Menai.

Mae Origins Creatives yn arddangosfa rad ac am ddim, sy'n rhoi llwyfan i weld a dathlu talent newydd, gan eu cysylltu â chydweithwyr posibl, arweinwyr y diwydiant a chynulleidfa ehangach.

Mae'n cynnwys gwaith myfyrwyr o lefel mynediad hyd at Lefel 4 ar draws amrywiaeth o feysydd creadigol - gan gynnwys ystod eang o waith peintio, ffotograffiaeth, lluniadu, cerflunio, ffasiwn a mwy.

Mewn man arall yn Llundain, bydd cylchgrawn a grëwyd gan Cadi fel rhan o'i chwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Ddylunio Kensington.

Bydd ei chylchgrawn, ‘Ynys Môn Camping Trip Guide’, a greodd fel rhan o brosiect mapio, yn cael ei ddangos o fis Medi ymlaen fel rhan o arddangosfa Future Observatory, sy’n para blwyddyn, ac sy’n hyrwyddo dylunio â meddylfryd newydd ar faterion amgylcheddol.

⁠Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Amgueddfa Ddylunio arddangosfa yn cynnwys gweithiau celf o yrfa'r gwneuthurwr ffilmiau chwedlonol Tim Burton. Mae'r sioeau sydd ar y gweill yn amrywio o arddangosfa ar glwb nos eiconig y 'Blitz' yn Llundain, i edrych yn ôl ar yrfa'r cyfarwyddwr ffilm Wes Anderson.

Hoffech chi weithio yn y sector Celf a Dylunio? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date