Mared yn llofnodi ei chytundeb proffesiynol cyntaf gyda Manchester United
Yn gynharach eleni, gwnaeth y gyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor ei hymddangosiad cyntaf i'r tîm yn Uwch Gynghrair y Merched
Mae Mared Griffiths, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, wedi arwyddo ei chytundeb pêl-droed proffesiynol cyntaf gyda thîm merched Manchester United.
Roedd Mared, sy'n chwarae pêl-droed rhyngwladol i Gymru, yn dilyn cwrs Lefel 3 mewn Busnes ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau tan yr haf diwethaf, pan ymunodd â thîm academi dan-21 United.
Mae'r chwaraewr canol cae 18 oed bellach wedi arwyddo gyda'r clwb yn Uwch Gynghrair y Merched tan 2027, gyda'r opsiwn o flwyddyn ychwanegol.
Llun: FAW
Dywedodd Mared wrth wefan y clwb: “Ie, rydw i'n falch iawn ohonof fy hun a'r teulu ac rydw i mor ddiolchgar i'r clwb am y cyfle yma.
“Unwaith i mi adael Academi CBDC yng Ngogledd Cymru a symud i fyny i Fanceinion i chwarae gyda’r tîm dan-21 oed, dyna oedd y nod [i chwarae yn y tîm hŷn].
“Allwch chi ddim setlo am chwarae i'r dan-21 yn unig. Dw i'n meddwl bod rhaid i bob chwaraewr osod safonau uchel iddyn nhw eu hunain, a bod â'r hyder y byddwch chi'n ei gwneud hi ryw ddydd.
“Mae cael targed fel hyn a’i gyflawni yn y flwyddyn gyntaf, mae'n gwneud i mi deimlo'n dda.”
Gwnaeth Mared ei ymddangosiad cyntaf i Manchester United ym mis Chwefror eleni, gan sgorio ddwywaith mewn buddugoliaeth o 6-0 dros Wolverhampton Wanderers yng Nghwpan FA’r Merched.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf i dîm hŷn Cymru mewn gêm a gollwyd o 1-0 yn erbyn yr Eidal, ar ôl chwarae i'r timau dan 19 a dan 17.
Mae Mared, o Drawsfynydd, yn un o'r chwaraewyr cyntaf i gynrychioli tîm hŷn Cymru ar ôl dod trwy system bresennol Academi Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru.