Sion a'i waith ar gynhyrchiad mawr yng ngogledd Cymru
Cafodd myfyriwr o Goleg Llandrillo'r cyfle i ymuno â chriw sioe HBO / Warner Bros trwy ei gwrs Cynhyrchu Cyfryngau
Mae Sion Thomas wedi llwyddo i gael swydd ar dîm cynhyrchu sioe teledu fawr lai na blwyddyn ar ôl dechrau dilyn cwrs yng Ngholeg Llandrillo.
Mae Sion, 25 oed o Niwbwrch, wedi treulio'r pum wythnos diwethaf yn gweithio ar ddrama fawr HBO/Warner Bros sy'n cael ei ffilmio ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru.
Dydy Sion ddim yn gallu datgelu enw'r sioe oherwydd iddo arwyddo cytundeb cyfrinachedd cyn dechrau ar y gwaith ond dywedodd bod y cynhyrchiad yn un mawr gyda phobl arbennig yn cymryd rhan.
Dyma'r ail sioe deledu y mae wedi gweithio arni ers dychwelyd i'r coleg fis Medi diwethaf i ddilyn cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Lefel 3 (Teledu a Ffilm).
Yn gynharach eleni, cafodd Sion ei gyflogi i weithio fel rhedwr cynhyrchu i Osprey Television, ar Ar Led, sioe i S4C am ymwybyddiaeth o iechyd rhywiol - cyfle a ddaeth ar ei draws yn ystod ei gwrs ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Gwnaeth gais am y rôl gyda HBO / Warner Bros ar ôl clywed am y swydd wag drwy Sgiliau Cymru.
Dywedodd Sion: “Dw i'n dysgu sut i osod y goleuadau, i weithio ar y camerâu a gyda'r cyfarwyddwyr cynorthwyol i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le ar y set ar gyfer y sesiwn ffilmio honno.
Mae'r oriau'n hir ac mae'n waith caled ond rydych chi'n treulio amser gyda phobl anhygoel - pobl sydd eisiau gweithio, pobl sydd eisiau eich dysgu chi. Mae'n rhaid i chi ddangos beth allwch chi ei wneud, gweithio'n galed a gwneud cymaint o gysylltiadau â phosibl.”
Mae wedi cydbwyso gweithio ar y set â chwblhau blwyddyn gyntaf ei gwrs yng Ngholeg Llandrillo - ac mae'n dweud bod y cwrs wedi bod o gymorth mawr wrth ei helpu i gael ei gyfle cyntaf yn y diwydiant.
"Oni bai i mi ddod i'r Coleg, fyddwn i ddim lle ydw i heddiw," meddai Sion, a dreuliodd 10 mlynedd yn gwerthu nwyddau i adeiladwyr cyn dychwelyd i fyd addysg.
“Mae’n gwrs da iawn ac yn cynnig llawer o gyfleoedd gwahanol, ac mae 'na hwyl i'w gael hefyd.
"Mae’n addysgiadol ac mae'r tiwtoriaid yn wych. Maen nhw wedi fy helpu'n arw - ac wedi rhoi'r hyblygrwydd i mi gyda therfynau amser a phethau fel 'na, oherwydd y cyfle roedden nhw wedi'i roi i mi weithio ar gynhyrchiad go iawn.
"Mi wnes i benderfynu fy mod eisiau gwneud rhywbeth oedd o wir ddiddordeb i mi, ond petawn i wedi ceisio ymuno â'r diwydiant yn syth, fyddai gen i ddim syniad ble i ddechrau arni. Mi wnaeth un o fy nhiwtoriaid sôn am y cyfle yn Osprey TV, ac mi wnes i gysylltu â Sgiliau Cymru drwy'r coleg hefyd.
"Yr uchafbwynt i mi oedd gweithio ar y prosiectau. Roedden ni'n cael cyfnod o ddysgu ac yna'n mynd ati i wneud y prosiect, a mynd allan a ffilmio pethau ar gyfer y prosiect.
"Dw i’n berson ymarferol, felly'r ochr ymarferol oedd orau gen i. Ond roedd yr ochr ymchwil yn ddiddorol iawn hefyd, dysgu am sut mae cyn-gynhyrchu yn dylanwadu ar y cynhyrchiad a’r ôl-gynhyrchu, a sut mae popeth yn dod at ei gilydd.
"Roedd yna derminoleg na fyddwn i'n gwybod amdano oni bai fy mod i wedi dod i’r coleg, beth mae pob adran yn ei wneud, sut a pham maen nhw'n gwneud y pethau hynny. Roedd yr agwedd honno'n dda, ac mae wedi bod o gymorth i mi yn fy ngwaith gyda HBO a Osprey TV."
Pan ofynnwyd iddo am ei gyngor i unrhyw un sydd eisiau ymuno â'r diwydiant ffilm, awgrymodd Sion eu bod yn dilyn llwybr tebyg iddo.
"Mi faswn i'n dweud wrthyn nhw am fynd i'r coleg, oherwydd oni bai am y cwrs yn y coleg, fyddwn i ddim lle ydw i heddiw," meddai. "Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi yn y coleg, rhai mewnol ac allanol, oherwydd byddwch chi'n meithrin cysylltiadau pwysig bob amser.
"Mae llawer o swyddi yn pasio o un i'r llall ar lafar yn y diwydiant yma. Mae angen i chi wneud argraff, neu fel arall fydd pobl ddim yn cysylltu â chi i gynnig gwaith. Mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi'n frwdfrydig, yn llawn egni ac eisiau gweithio."
Mae Sion wedi gwneud cais am brentisiaeth gyda Warner Bros, a fyddai’n rhoi profiad amhrisiadwy iddo o weithio ar gynyrchiadau ledled y DU a thu hwnt.
Mae'n uchelgeisiol iawn, a dywedodd: “Dw i'n bwriadu gweithio fy ffordd i fyny trwy rengoedd adran gamera. Cyfarwyddwr ffotograffiaeth ydy'r freuddwyd ond mae'n rhaid i chi weithio'n galed i gyrraedd y lefel honno, felly mi gawn ni weld beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig.”
Dywedodd Hannah Owens, darlithydd cyfryngau creadigol yng Ngholeg Llandrillo, fod Sion wedi “bod yn rhagorol drwy gydol y flwyddyn ac wedi dangos ymroddiad gwirioneddol”.
Ychwanegodd: “Daeth yn ôl i fydd addysg yn llawn brwdfrydedd ac ymrwymiad, mae'n enghraifft wych o lwyddiant ym maes addysg bellach, a'r camau cywir i'w dilyn er mwyn gweithio yn y diwydiant ffilm."
Eisiau gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 2 i lefel Gradd dan arweiniad tiwtoriaid cymwys â phrofiad yn y diwydiant. Dysgwch ragor yma.