Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darlithydd o'r coleg yn teithio i India i rannu ei wybodaeth am gerbydau trydan

Yn ddiweddar, dychwelodd Paul Griffith o Telangana a Karnataka lle'r oedd yn ymchwilio i brinder sgiliau yn y diwydiant cerbydau trydan

Yn dilyn taith ymchwil ddiweddar, mae Paul Griffith sy'n ddarlithydd yng Ngholeg Menai yn gobeithio helpu i lenwi'r bwlch mewn sgiliau sy'n gysylltiedig â cherbydau trydan yn India.

Mae Paul yn darlithio mewn Peirianneg Cerbydau Modur ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, lle mae'r cyrsiau'n cynnwys Gwaith Trwsio ac Amnewid mewn Cerbydau Trydan Hybrid, Calibro a Deall Systemau Datblygedig sy'n Cynorthwyo Gyrwyr (ADAS), a chyn hir, cyrsiau Hyfforddi a Rheoli i Brofwyr MOT.

Mae wedi teithio i India o'r blaen i helpu i gynnal cyrsiau mewn technoleg cerbydau trydan, a dychwelodd yn ddiweddar i nodi pa sgiliau oedd eu hangen ar ddiwydiant cerbydau trydan y wlad.

Roedd y ddwy daith yn rhan o bartneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai a grŵp colegau NPTC yn ne a chanolbarth Cymru, ac fe'u hariannwyd gan y rhaglen Cymru Fyd-eang.

Y gobaith yw y bydd y ddau goleg yn gallu helpu i roi hwb i hyfforddiant sgiliau ym maes cerbydau trydan yn India, ac y bydd hynny yn ei dro yn helpu i leihau llygredd yn y wlad.

Dywedodd Paul: “Y llynedd mi wnaethon ni gynnal wythnos o gwrs ar dechnoleg cerbydau trydan i tua 60 o ddysgwyr yng Ngholeg Geethanjali yn Hyderabad.

“Roedd yn amlwg eu bod yn cael trafferth gyda sgiliau ymarferol, oherwydd bod eu system addysg yn canolbwyntio llawer mwy ar ddisgyblaethau academaidd.

“Yr wythnos diwethaf aethon ni'n ôl i Hyderabad ar daith ymchwil i geisio adnabod unrhyw brinder sgiliau.

“Mi wnaethon ni ymweld â llawer o wahanol wneuthurwyr cerbydau a chynnal amrywiol gyfarfodydd, gan gynnwys trafod materion gyda Dirprwy Uchel Gomisiynydd Prydain yn Bengaluru.

“Mi dreulion ni bum diwrnod yn ymweld â gwneuthurwyr ceir trydan ac yn cyfarfod â phobl er mwyn darganfod beth roedden nhw'n ei wneud, sut roedden nhw'n recriwtio pobl, a pha broblemau roedd ganddyn nhw'n gyffredin o ran sgiliau sylfaenol.

“Gyda chyfraniad gweithgynhyrchwyr allweddol y diwydiant cerbydau 2W, 3W, 4W a batri, mi lwyddon ni i gwblhau asesiad manwl iawn o'r ecosystem ceir trydan yn nhaleithiau Telangana a Karnataka.”

Yn sgil y trip, mae adroddiad yn cael ei lunio ar gyfer Cymru Fyd-eang, a thrafodaethau'n mynd rhagddynt ar sut y gall y bartneriaeth helpu i wella sgiliau pobl India ym maes cerbydau trydan.

Ychwanegodd Paul: “Efallai y gallem gynnal cyrsiau iddyn nhw yma, eu hyfforddi nhw yma ac yna mynd yn ôl i India i gynnal asesiadau a fyddai'n rhoi cymhwyster achrededig i'r dysgwyr gyda City & Guilds neu IMI.

“Os gallwn ni gynnal cyrsiau iddyn nhw yma neu yn India sy'n cael eu hachredu gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig, bydd hynny wedyn yn mynd â nhw i unrhyw le yn y byd.

“Mae'r galw am dechnoleg cerbydau trydan ar gynnydd yn India, felly mae'n her cael digon o ddysgwyr a thechnegwyr sy'n gallu gweithio'n ddiogel yn y maes.

“Mae yna lawer o gwmnïau newydd yn India sy'n datblygu beiciau, cerbydau tair olwyn ac ati. Os gallan nhw wneud cerbydau trydan yn fwy fforddiadwy bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i lefelau llygredd yn y wlad.”

Yn ystod y ddwy daith, bu Paul Griffith o GLlM, a Will Davies a Gagan Aggarwal o Grŵp Colegau NPTC yn gweithio mewn partneriaeth â Srinivas Cherla a Naga Durga Babu o RICH (Research and Innovation Circle, Hyderabad) a Gopalakrishnan VC o TSIIC (Telangana State Industrial Infrastructure Corporation).

Ariannwyd y daith gan Gymru Fyd-eang, sydd â’r nod o ddarparu ymagwedd strategol a chydweithredol at addysg uwch ac addysg bellach ryngwladol yng Nghymru. Mae Cymru Fyd-eang yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Colegau Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau Peirianneg sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.