Cyn-fyfyriwr yn cael ei chydnabod fel Llysgennad STEM Rhyngwladol
Mae Kathryn Whittey, sydd yn gyn fyfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, wedi ei dewis fel un o lysgenhadon rhyngwladol Homeward Bound.
Mae Homeward Bound yn fudiad rhyngwladol sydd yn gweithio er mwyn gosod merched yn ganolog, ac mewn safleoedd arweiniol yn y meysydd STEMM ar draws y byd.
Er mwyn cefnogi merched mewn STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth) i wella eu heglurder, eu hyder, eu gweledigaeth a’u gallu strategol yn sylweddol, yn gwella eu cyfle i ymgymryd â rolau arwain yn fyd-eang, ac i gyfrannu’n rhagweithiol at gynlluniau cynaliadwy.
Mae Kathryn wedi ei dewis fel un o’r llysgenhadon fydd yn gweithio i wireddu gweledigaeth Homeward Bound.
Bu Kathryn yn fyfyriwr Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar safle Pwllheli, cyn iddi symud ymlaen i astudio Bioleg Mor yn y Brifysgol. Wedi iddi raddio, daeth yn ôl i’r coleg am gyfnod i weithio fel darlithydd, cyn symud ymlaen i astudio am ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Kathryn yn angerddol am gadwraeth forol ac fel rhan o’i PhD sefydlodd brosiect riff artiffisial cydweithredol o’r enw Fish Hives. Trwy Fish Hives a’i hymchwil arall mae’n gobeithio lledaenu ymwybyddiaeth o ddirywiad creigresi cwrel.
Mae Kathryn yn siarad Cymraeg, ac yn gweithio i weld mwy o fynediad i astudiaethau STEMM drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cynnig.
Fel rhan o gynllun Homeward Bound, mae Kathryn wedi ei dewis i fynd ar daith ymchwil i Antartica diwedd y flwyddyn.
Gan fod rhanbarthau Antarctica yn dangos yr ymatebion cyflymaf i rai o'r problemau cynaliadwyedd byd-eang sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Mae Antarctica yn cynnig cyfle heb ei ail i arsylwi’n uniongyrchol ar ddylanwad gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd a darparu mewnwelediad beirniadol i’r newid ar raddfa fyd-eang sydd ei angen. Mae’r amgylchedd eiconig hwn wedi dal dychymyg arweinwyr yn y gorffennol ac mae’r profiad o ymweld ag Antarctig yn gyfle i greu cysylltiadau cryf rhwng cyfranogwyr y prosiect.
Dywedodd Beth Lloyd Owen-Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen Addysg Gyffredinol, Coleg Meirion-Dwyfor.
“Mae’r coleg yn eithriadol o falch o ddysgu am lwyddiant ysgubol Kathryn. Mae cael lle ar brosiect Homeward Bound yn eithriadol o gystadleuol, dim ond y gorau sydd yn cael eu dewis. Fel coleg sydd yn angerddol dros weld merched yn cael mynediad hafal i astudio pynciau STEMM, mae hyn yn newyddion gwych”
Ychwanegodd.
“Ers i Kathryn ein gadael, mae’r coleg wedi buddsoddi’n sylweddol mewn labordai newydd, yn y gobaith y byddwn ni’n gweld llawer o fyfyrwyr yn dilyn ôl troed Kathryn. Da iawn ti Kathryn, mae’r coleg yn hynod o falch o dy lwyddiant”
I ddysgu mwy am gyrsiau Lefel A yn y coleg, clicia YMA