Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Chloe'n Profi Llwyddiant yn y Diwydiant Adeiladu

Prentis sydd ar ail flwyddyn ei chwrs Gwaith Saer yng Ngholeg Menai yw Chloe Bidwell ac mae'n gwneud popeth yn ei gallu i brofi bod merched yn gallu llwyddo yn y diwydiant.

Ar ôl ennill medal Aur yng nghategori Gwaith Asiedydd rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'n ddiweddar, mae Chloe'n sicr ar ei ffordd i fod yn grefftwr llwyddiannus iawn. Yn y gystadleuaeth roedd rhaid i Chloe adeiladu ffrâm gan ddefnyddio uniadau mortais, tyno a bagl, ac yna torri a ffitio gleiniau gwydro i'w ffrâm. Bydd Chloe yn cystadlu nesaf yn rowndiau rhagbrofol 'Go Construct Skillbuild' sy'n cael eu cynnal ar gampws Coleg Menai yn Llangefni ar 8 Mehefin.

Mae Chloe yn brentis gyda'r darparwr llety myfyrwyr 'Varcity Living' ym Mangor ac yn ddiweddar fe'i gwahoddwyd i gymryd rhan mewn podcast ar y diwydiant Adeiladu.

Mae 'Construction Talk' yn cael ei gyflwyno gan Peter Haddock sy'n newyddiadurwr ym maes Adeiladu ac yn y podcast mae Chloe yn trafod sut y dechreuodd ymddiddori mewn gwaith saer, ei phrentisiaeth gyda Choleg Menai, a'i phrofiadau yn y gweithle. Gallwch wrando ar y podcast yma.

Meddai Chloe:

“Hyd yma, mae'n debyg mai rhan orau fy mhrofiad fel prentis yw'r cystadlaethau gan eu bod wedi fy annog i wneud rhywbeth hollol wahanol a chystadlu yn erbyn llwyth o bobl eraill. Rydw i wedi mwynhau dysgu pethau newydd a fydd yn fy helpu i wella fy sgiliau i gyd trwy gydol fy ngyrfa."

Dywedodd Dyfed Jones, Dirprwy Reolwr y Maes Rhaglen Adeiladu yng Ngholeg Menai:

"Mae'n wych gweld Chloe'n cael y fath lwyddiant ar ei phrentisiaeth, yn profi ei hun ar lefel genedlaethol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac yn ennill medal Aur!

"Mae Chloe'n ysbrydoliaeth i'n dysgwyr i gyd, ac yn dangos beth y gall sgiliau a gwaith caled ei gyflawni.

"Rydyn ni yng Ngholeg Menai yn falch o'i chefnogi ar ei thaith, ac mae ei chyflogwr, Varcity Living ym Mangor, yr un mor awyddus i weld Chloe yn cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau."