Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Blas ar fyd gwaith go iawn i fyfyrwyr o'r Adran Beirianneg

Pob lwc i ddysgwyr y cwrs Lefel 3 Peirianneg Gyffredinol Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor a fydd yn cyflawni gwaith portffolio ac yn mynd ar brofiad gwaith ystod gwyliau'r Pasg

Mae myfyrwyr o adran beirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn mentro i fyd gwaith yn ystod gwyliau'r Pasg.

Mae dysgwyr sy'n dilyn cwrs BTEC Lefel 3 - Peirianneg Gyffredinol Uwch, yn mynd ar drydydd a phedwerydd cyfnod o brofiad gwaith ar leoliad.

Fel rhan o’u cwrs, mae gofyn i fyfyrwyr campysau Pwllheli a Dolgellau gyflawni 20 diwrnod o brofiad gwaith ym maes peirianneg.

Mae'r cwmnïau sy'n cynnig lleoliad gwaith dros wyliau'r Pasg yn cynnwys: Atomfa Trawsfynydd, Rehau (Blaenau Ffestiniog), Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, Zip World, Hufenfa De Arfon, Pace Fire & Security, Bridge Garage (Pwllheli), Cyngor Gwynedd, Carl Kammerling, First Hydro, National Grid ar Brosiect Aber Afon Dwyryd, SP Energy Network, Dŵr Cymru a Harbour Marine (Pwllheli).

Meddai Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: ““Yn ystod yr wythnos hon bydd 18 o fyfyrwyr yn mentro i fyd gwaith am y trydydd tro gyda chwmnïau lleol amrywiol. Mae dyddiadau pellach wedi’u cynllunio ym mis Mai 2024.

Hoffai staff Coleg Meirion-Dwyfor ddiolch i’r cwmnïau hynny sydd wedi derbyn y dysgwyr ar brofiad gwaith yn ystod yr wythnos hon. Rydym yn gobeithio y bydd ein myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yn gweithio i'r cyflogwyr.

Mae’r cwrs Peirianneg Uwch yn cyflwyno sgiliau peirianneg cyffredinol i’n myfyrwyr a fydd yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i brentisiaethau uwch gyda chwmnïau fel Rolls Royce, Ryanair Maintenance, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru a Rehau Ltd. Mae eraill wedi mynd ymlaen i astudio peirianneg sifil, peirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol a pheirianneg chwaraeon moduro mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr.”

Dylai unrhyw gwmni sydd â diddordeb mewn cynnig lleoliad gwaith yn y dyfodol gysylltu ag Emlyn Evans drwy e-bost: evans12e@gllm.ac.uk

Hoffech chi ddysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma here.