Prentis Gradd yn dod yn agos i'r brig yng ngwobrau gweithgynhyrchu cenedlaethol y DU!
Mae'r rhaglenni Prentisiaeth Gradd i gyd wedi cael eu datblygu gan ystyried dysgu seiliedig ar waith a barn cyflogwyr, felly mae'r prentisiaid yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt yn y gweithle.
Yn ddiweddar cafodd talentau Jamie Roles, sy'n astudio ei gwrs prentisiaeth gradd ym maes Gwyddor Data yng Ngrŵp Llandrillo Menai, eu cydnabod pan ddaeth yn ail o blith cannoedd o gystadleuwyr yn rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol "Make UK Manufacturing".
Gwnaeth gryn argraff ar y beirniaid, a ddywedodd: "Mae gan Jamie yrfa wych o'i flaen. Mae'n amlwg yn mwynhau'r hyn a wna, rydym yn edrych ymlaen at ddilyn ei yrfa dros y blynyddoedd nesaf; does dim dwywaith y bydd yn arwain pobl yn y dyfodol agos."
Dywedodd Andrew Scott, Arweinydd y Rhaglen Prentisiaethau Gradd yng Ngrŵp Llandrillo Menai: "Dangosodd Jamie agwedd ardderchog tra oedd yn astudio yn y coleg ac mae ei gyflawniadau yn glod i'w waith caled. Da iawn ti Jamie! Edrychwn ymlaen at weld beth fydd y cam nesaf yng ngyrfa Jamie."
Mae Prentisiaethau Gradd yn cynnig llwybr gwahanol i'r un addysg uwch academaidd arferol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser astudiaethau prifysgol rhan-amser, felly gall gweithwyr cyflogedig ennill gradd a datblygu eu sgiliau gan barhau i fod yn y gweithle.
Mae'r rhaglenni Prentisiaeth Gradd i gyd wedi cael eu datblygu gan ystyried dysgu seiliedig ar waith a barn cyflogwyr, felly mae'r prentisiaid yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt yn y gweithle.
Ariennir y rhaglenni'r llawn gan Lywodraeth Cymru, felly does dim cost i'r cyflogwr na'r prentis.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Prentisiaethau Gradd ewch i www.gllm.ac.uk/cy/degree-apprenticeships