Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau Gradd

Mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr gwahanol i'r un addysg uwch academaidd arferol. Maent yn cyfuno gwaith ag astudio'n rhan-amser.

Gall Prentisiaethau Gradd wedi'u hariannu'n llawn ychwanegu gwerth aruthrol at fusnesau. Galluoga Prentisiaethau Gradd i weithwyr yng Nghymru astudio ac ennill Gradd Brifysgol wrth weithio. Bydd cyflogwyr yn cael gweithwyr sydd wedi gwella eu sgiliau'n aruthrol, sydd â'r sgiliau academaidd yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol i ddatblygu'r gweithlu. Gellir dynodi a chefnogi gweithwyr presennol i wella eu sgiliau neu gellir recriwtio prentisiaid newydd i'r busnes.

Wrth wneud Prentisiaeth Gradd, byddwch yn gweithio i'ch cyflogwr am bedwar diwrnod yr wythnos ac yn treulio diwrnod ac un min nos yn astudio.

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf byddwch yn astudio yn y coleg am un diwrnod ac un min nos yr wythnos. Ym mlwyddyn olaf y Brentisiaeth Gradd byddwch yn symud i Brifysgol Bangor i astudio am ddiwrnod yr wythnos i gwblhau'r cymhwyster BSc (Anrh). Ar y diwedd, byddwch yn graddio gyda gradd o Brifysgol Bangor.

Caiff graddau prentisiaeth eu hariannu'n llawn, felly bydd y gweithwyr yn cael profiad gwaith gwerthfawr yn ogystal â gradd sy'n berthnasol i ddiwydiant heb orfod talu ffioedd dysgu!

Rhai o fanteision prentisiaethau gradd

  • Dim dyled – Fel arfer mae myfyrwyr addysg uwch yn wynebu ffioedd dysgu o dros £9,000 y flwyddyn, ynghyd â'r costau byw sy'n gysylltiedig ag astudio oddi cartref. Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – felly cewch holl fanteision gradd gonfensiynol heb orfod dioddef yr anfanteision ariannol!
  • Ennill cyflog wrth ddysgu – Fel Prentis Gradd byddwch yn cael eich cyflogi am ran o'r cwrs, sy'n golygu y byddwch yn ennill cyflog tra hefyd yn astudio.
  • Cymhwyster diwydiannol – Mae'ch cymhwyster yn uniongyrchol berthnasol i'ch diwydiant, felly rydych chi a'ch cyflogwr yn meithrin y sgiliau sydd arnoch eu hangen i lwyddo.
  • Ymhlith y manteision i Gyflogwyr, mae - Gwella sgiliau'r gweithlu presennol a darpar weithwyr; llenwi bylchau o ran sgiliau lefel uwch; cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, a dangos ymrwymiad cadarn i fuddsoddi mewn pobl.

Gofynion mynediad

  • Bydd gofyn i'r gweithiwr fod yn gweithio un ai'n llawn amser neu'n rhan-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn diwydiant perthnasol.

  • Bydd gofyn i'r gweithiwr dreulio o leiaf 51% o'i oriau gweithio yng Nghymru

  • Bydd angen i'r gweithiwr fod ar gael i astudio un diwrnod ac un min nos yr wythnos

  • Bydd angen i'r gweithiwr fodloni gofynion mynediad y rhaglen

  • Yn debyg i brentisiaethau eraill, mae Prentisiaethau Gradd yn cynnwys dysgu seiliedig ar waith ac astudiaethau academaidd Addysg Uwch. Rhaid i'r gweithiwr fod mewn swydd sy'n addas i'r rhaglen mae'n ei dilyn.

  • Nid oes uchafswm oedran ar gyfer Prentisiaethau Gradd

Pa Brentisiaethau Gradd sydd ar gael?

Ydych chi'n awyddus i roi hwb i'ch gyrfa?

Bellach does dim rhaid i chi ddewis rhwng gradd neu brentisiaeth. Yn awr gall cyflogwyr yng Nghymru gynnig prentisiaethau lefel gradd, felly gallwch ddilyn cwrs gradd wedi'i ariannu, heb fynd i ddyled a chan ennill profiad ymarferol ar yr un pryd. Mae prentisiaethau gradd i'r dim os ydych wedi rhoi'ch bryd ar lwybr gyrfa ac yn awyddus i ennill cyflog wrth ddysgu.

Does dim rhaid i chi fod yn aelod newydd o staff i ddilyn Prentisiaeth gradd – efallai eich bod chi a'ch cyflogwr yn awyddus i feithrin eich sgiliau ymhellach.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer Prentisiaethau Gradd BSc (Anrh) mewn:

Ar gyfer ymholiadau cwrs penodol, cysylltwch â:

  • Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol / Seiberddiogelwch Cymhwysol / Gwyddor Data Gymhwysol
    Andy Scott (Arweinydd Rhaglen) a.scott@gllm.ac.uk
  • Rhagleni Peirianneg Gymhwysol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos:
    Steve Ryan (Arweinydd Rhaglen) s.ryan@gllm.ac.uk
  • Rhagleni Peirianneg Gymhwysol ar gampws Llangefni:
    Eurfon Davies (Arweinydd Rhaglen) eurfon.davies@gllm.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu i drafod y cyfleoedd sydd ar gael, cysylltwch yn uniongyrchol â ni ar apprenticeships@gllm.ac.uk neu apprenticeships@bangor.ac.uk.

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur
Request date