Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Menai i Gynnal Ffair Wirfoddoli

Cyn bo hir bydd Coleg Menai yn cynnal Ffair Wirfoddoli ar ei gampws ym Mangor, mewn ymgais i ysbrydoli staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd i ystyried rhoi rhywfaint o'u hamser rhydd i helpu eraill.

Cynhelir y ffair ar ddydd Mercher y 10fed o Fai 2023, rhwng 11am a 2pm ym mhrif dderbynfa campws y coleg ar Ffordd Ffriddoedd.

Mae'r elusennau a sefydliadau a fydd yn bresennol yn cynnwys:

  • Rheilffordd Ffestiniog
  • Mantell Gwynedd
  • Tŷ Gobaith
  • Banciau Bwyd Caernarfon
  • Noddfa Anifeiliaid Idlewild
  • Morrisons - Hyrwyddwr cymunedol
  • Cyfeillion Pier Bangor
  • RSPB
  • Scope
  • ⁠Y Samariaid

Mae’r ffair yn agored i bawb, a gwahoddir aelodau’r cyhoedd draw i’r ffair i ddarganfod cyfleoedd gwirfoddoli lleol a digwyddiadau codi arian i gymryd rhan ynddynt.